Main content

'IoNawr IoNewydd' - Sion Tomos Owen (Bardd y Mis)

Sion Tomos Owen, Bardd y Mis Ionawr 2024, yn rhannu cerdd ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn

IoNawr IoNewydd

Sut mae dathlu diwedd blwyddyn a dechrau un arall?
Beth yw’r wers i ddysgu
trwy ynysu’r eiliadau penodol
i ddarganfod dyfodol obeithiol
o bresenol canol nôs
pan ddaw'r tic ola
toc diwedd Rhagfyr?

Pan ddown ni at ddechrauad newydd nefol
bob 29.5 dwrnod y cylch lleuad?
Pan mae'n planed pitw ni'n troelli rownd yr haul,
mewn cysawd bach
o fewn bydysawd sy'n fwy
nac gall ein mesuriadau fathemategol gyfri?

Nace,
trwy addewidion.
Y planhigion tÅ· o obeithion dyn;
Llawn gobaith i ddechrau
cyn blino a troi'n llipa
yn syllu arnoch o bell
tra bo chi'n mwydro
am beth allech chi wedi wneud yn well?

Blwyddyn newydd,
Fi newydd.
Sgwennu rhestr mewn trefnydd newydd.
Urddas y rhif olynol
embossed ar flean y clawr,
fel tatw dros-dro y dyfodol,
fydd yn diflanu ymhen 365 diwrnod.
Arogl fresh y gwaglefydd i lenwi,
clywed crac cadarnhaol mis Ionawr yn agor,
a co’r cychwyn cyntaf i rhestri
beth sy'n rhaid i mi wneud...

Felly;
Dwi angen adeiladu shed,
Adeiladu perthynas gwell ‘da teulu pell,
Adeiladu silffoedd yn y cwtch
Adeiladu’r wal yn y cwtch lle fydd y silffoedd yn hongian,
Adeiladu cyhyrrau mwy fel yn y llun ohona'i
ar wyliau deng mlynedd yn ôl,
cyn magu bol,
cyn magu dyled,
cyn magu plant,
pan oedd rhamant dal yn fyw,
pan oedd lliw dal yn fy llygaid,
pan oedd fy nhalcen heb grych,
pan odd drych yn dangos breuddwydion i ddod
nid atgofion o amser a fu.
Cyn i orymdaith di-baid amser
rhwymo marwoldeb dynol i'n agwedd ar fywyd
a ngorfodi i ailystyried creu rhestr
fydd yn fy hyrddio allan i anialdir myfyrdod a phendroni nihilaidd,
yn crwydro o un mis i’r llall
yn gaddo na'i wneud ddechrauad ohoni
wrth i brysurdeb ein cynllyniau ben baladr
lewni’r calendr
ond cyn troi rownd, dwi flwyddyn yn hynnach,
mae'r tennyn yn dynnach
mae'r dyddiau'n fyrrach,
ac mae'r byd yn llosgi ei ffordd i mewn i flwyddyn nesaf yn barod!!

Ond so'r beiro ma'n gweithio
felly na'i ddechreuad newydd arall...
fory.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau