Main content
'Robin' - Meleri Davies (Bardd y Mis)
Cerdd Nadoligaidd gan Fardd y Mis Rhagfyr 2023, Meleri Davies. Dyma 'Robin':
Yda chi’n fy ngweld i
ar riniog eich bifolds disglair
yn canu’r dydd a chanu’r nos?
Fy mrest yn nodau cynnas i gyd
yn tarro’r paen.
Yda chi’n clywed fy nghân
fel clychau Sion Corn ar yr awel?
Fy nghalon lân yn curo’n ysgafn
ar eich drws – lle nad oes briwsion.
Welwch chi ddawns fy nhraed
yn gylchoedd sêr ar eich stribyn lawnt?
Patrymau’n diflannu wrth i’r eira ola doddi.
Fyddwch chi’n cofio fi’n canu i chi ffrindia -
fy mhen yn gam, yn holi pam?
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Llyfr Sgwrs Dan y Lloer
Hyd: 10:08
-
Nadolig yn Awstralia
Hyd: 07:45
-
Apêl oesol dramâu Shakespeare
Hyd: 09:17
-
Panad, paned, dishgled...
Hyd: 07:35