Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr, yr 2il o Ionawr 2024.

Porthdinllaen,Yr Eifl,Cancr y Fron,Penblwydd yn 80,Nofio Môr,Caffi Largo,Un Nos Ola Leuad.

1 John ac Alun – ymweld â Phorthdinllaen:

Ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol LlÅ·n ac Eifionydd eleni aeth John ac Alun am dro o gwmpas eu hoff lefydd ym Mhen LlÅ·n, a dewis John oedd cael mynd draw i Borthdinllaen, a rhoi gwahoddiad i Meinir Pierce Jones, un o ferched yr ardal i ddod yno am sgwrs.

Arwyddocâd Significance
Cysgod diogel Safe shelter
Delfrydol Ideal
Dyfnder Depth
Porthladdoedd Ports
Gofaint Blacksmith
Seiri Carpenters
Safle diwydiannol An industrial site
Gan fwya Mostly
Argian Good Lord
Trochi traed Paddling

2 Clip Aled Hughes:

Mae hi’n anodd meddwl am Borthdinllaen fel safle diwydiannol yn tydy? Tybed faint o’r twristiaid sy’n mynd yno bob blwyddyn sy’n gwybod am hanes y lle?

Ac mi arhoswn ni ym Mhen Llŷn efo’r clip nesa ‘ma. Ar Orffennaf y 26ain y llynedd, wrth edrych ‘mlaen at Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, mi gafodd Aled Hughes gwmni’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd ac aeth y ddau i gopa’r Eifl, a dyma chi flas o’u sgwrs.

Awgrym A suggestion
Machlud Sunset
Rhufeiniaid yn cilio The Romans withdrawing
Anwybyddu To ignore
Gwyddelod Irish people
Gwaywffon Spear
Penwaig Herring
Dinasyddiaeth Citizenship
Diwylliedig Cultured
Tyndra ar y ffin Tension on the border

3 Beti a’i Phobol:

Dipyn bach o hanes ardal yr Eifl yn fanna gan yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.

Sioned Lewis oedd gwestai Beti a'i Phobol ar y 7fed o Fai 2023. Mae Sioned yn Gwnselydd ac yn Seicotherapydd ac yn dod yn wreiddiol o Ddolwyddelan yn Sir Conwy. MI fuodd hi’n gweithio mewn sawl maes gwahanol, yn gwerthu tai, yn y byd teledu a gyda Mudiad Ysgolion Meithrin. Sioned ydy Cwnselydd y rhaglen Gwesty Aduniad ar S4C. Yn y clip hwn mae hi’n sôn am ei hamser yn dioddef o gancr y fron:

Archdderwydd Archdruid
Cancr y fron Breast cancer
Efo chdi Gyda ti
Cwffio Ymladd
Dychmygu Imagining
Cyfres Series
Triniaethau Treatments
Ffydd Faith
Blin Yn grac
Ymdopi Coping
Y blaenoriaeth The priority

4 Bore Cothi:

Sioned Lewis oedd honna’n siarad am ei phrofiad o fod efo cancr y fron.

Ar Fedi’r 27ain y llynedd, mi roedd Max Boyce yn dathlu ei ben-blwydd yn 80, ac i nodi’r garreg filltir arbennig yma mi fuodd Max allan ar y ffordd unwaith eto yn perfformio mewn cyfres o gyngherddau. Mi gafodd Shan sgwrs efo Max cyn y daith, gan gychwyn drwy ofyn oedd y penderfyniad i deithio eto’n un anodd?

Carreg filltir Milestone
Yr hewl (heol) The road
Rhoi’r ffidil yn y to To give up
Cwpla Gorffen
Ysbrydoli To inspire
Clwb gwerin Folk club
Uniaethu To identify
Ystyried To consider

5 Caryl Parry Jones:

Y bytholwyrdd Max Boyce yn dathlu ei ben-blwydd drwy berfformio - wel be arall ynde?

Yn ôl ym mis Mai 2023 cafodd Caryl sgwrs gyda Heather Hughes. Mae Heather yn aelod o grŵp nofio Titws Tomos Môn. Yn 2019 mi gafodd hi waedlif ar yr ymennydd a chyflwr o’r enw Hydrocephalus, sef dŵr ar yr ymennydd. Ers hynny mae hi’n nofio yn y môr ym mhob tywydd. Yn y clip hwn cawn glywed Heather yn sôn am ei phrofiad, a pha mor llesol ydy nofio yn y môr iddi hi:

Bytholwyrdd Evergreen
Gwaedlif ar yr ymennydd Brain haemorrhage
Cyflwr Condition
Llesol Beneficial
Poblogrwydd Popularity
Llwythi Loads
Goro Gorfod

6 Trystan ac Emma:

Dyna enw da ar y grŵp ynde – Titws Tomos Môn!

Ddechrau mis Rhagfyr mi gafodd Rhaglen Trystan ac Emma wahoddiad i Gaffi Largo ym Mhwllheli. Mi fuodd yna lawer o hwyl a sbri yn y caffi - yn siarad efo’r staff ac efo pobl leol. Un ohonyn nhw oedd Christine Jones o dre Pwllheli:

Haeddu To deserve
Bobol annwyl! Goodness me!
Brolio To boast
Yn rhagori Surpasses
Nionyn picl Pickled onion

7 Ffion Dafis:

Christine Jones – un o gymeriadau ardal Pwllheli yn dod â llwyth o hwyl a chwerthin i Gaffi Largo’r dre.

Ac yn ardal Pwllheli oedd yr Eisteddfod Genedlaethol eleni wrth gwrs ac yno cafodd fersiwn e-lyfr o’r nofel boblogaidd iawn, Un Nos Ola Leuad gan Caradog Pritchard, ei lawnsio, efo’r actorion John Ogwen a Maureen Rhys yn ei darllen. Yn y clip hwn ar raglen Ffion Dafis mae John yn sôn am y tro cynta daeth o ar draws y nofel:

Digwyddiad Event
Gwerthfawrogi To appreciate
Beirdd Poets
Lleuad Moon
Gwên ryfeddol A wonderful smile
Dagrau Tears
Atgof Recollection

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

21 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad