Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Ragfyr 2023.

Dolig yn Ewrop, pianydd Llyr Williams,coginio sprouts,poeni am bartis dolig a dolig Helen.

1 Aled Hughes :

Mair Tomos Ifans fuodd yn siarad efo Aled Hughes yn ddiweddar am rai o hen draddodiadau Nadolig gwledydd Ewrop. Mae Mair yn actores, cantores, sgriptwraig, darlithydd a thiwtor. Ond erbyn hyn mae’n treulio llawer iawn o amser yn adrodd straeon ac yn arwain gweithdai mewn ysgolion:

Traddodiadau Traditions
Diniwed Innocent
Darn o bren A piece of wood
Boncyff A log
Ymwybodol Aware
Ymddangos Appearing
Melysion Sweets
Curo To beat
Carthen A cover
Penodol Specific
Gwasgaru’r llwch Dispersing the ash

2 Ffion Dafis :

Golwg yn fanna ar rai o draddodiadau Nadolig gwahanol iawn sydd i’w gael yng ngwledydd Ewrop gan Mair Tomos Ifans.

Mi fuodd y pianydd rhyngwladol Llŷr Williams yn perfformio yng Nghanolfan Pontio ym Mangor yn ddiweddar, ac mi gafodd Ffion Dafis sgwrs efo fo am sut mae o’n mynd ati i ymarfer a dewis ei raglen ar gyfer perfformio:

Bysedd Fingers
Hyblyg Flexible
Ymwybodol Aware
Toriadau Breaks
Yn fwy cyfarwydd More familiar
Dehongli To interpret
Datblygu To develop
Amlygu ei hun Manifests itself

3 Bore Cothi :

Y pianydd Llŷr Williams oedd hwnna’n rhannu ambell i gyfrinach efo Ffion Dafis am sut mae o’n paratoi at berfformio.

Ddydd Llun yr 11eg o Ragfyr, Alison Huw y gogyddes oedd gwestai Shân Cothi. Trafod ‘sprouts’ oedd hi, neu ysgewyll Brwsel yn Gymraeg. Nid pawb sy’n hoff iawn o’r ysgewyll naci! Ond yma mae Alison yn sôn am ffordd hyfryd o’i weini ar gyfer eich cinio Dolig:

Cyfrinach Secret
Ysgewyll Sprouts
Gweini To serve
Cnau castanwydden Horse chestnut
Hallt Salty
Plisgo Peeling
Ffwrn Popty
Moethus Luxurious
Rhwydd Hawdd
Yn glou iawn Yn gyflym iawn

4 Dros Ginio :

Wel dyna i chi ambell i syniad am ginio Dolig llwyddiannus, ond be am lwyddo i fwynhau
parti Nadolig?

Mae yna ymchwil sy’n dangos bod nifer o bobl yn teimlo'n bryderus yn y partïon hyn.
Mirain Rhys o Adran Seicoleg Coleg Prifysgol Met Caerdydd, a ‘Mr Cymdeithasu’ Stifyn Parri sy'n trafod sut mae paratoi'n gymdeithasol ar gyfer y partïon?

Pryder a chynnwrf Anxiety and excitement
Curiad fy nghalon My heartbeat
Anadlu Breathing
Baglu To trip
Chwydu Vomiting
Pynciau Topics
Osgoi To avoid
Sleifio mewn To sneak in
Corwynt Hurricane
Dadleuol Controversial
Ysgogwyr Stimuli

5 Rhaglen Caryl Parry Jones:

Wel dyna ni wedi cael syniadau coginio Nadolig, syniadau am sut i fwynhau partïon Nadolig ac rŵan dan ni’n mynd i glywed pa fath o Nadolig bydd Helen Evans o Fethesda yn ei fwynhau. Dyma i chi flas ar sgwrs rhwng Helen a Shelley Rees oedd yn cadw sedd Caryl yn gynnes nos Fawrth y 12fed o Ragfyr.

Unig blentyn Only child
Ysbrydoli To inspire
Wedi mopio efo Wedi dwlu ar
Y diwrnod canlynol The following day
Llond tÅ· A houseful

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad