Main content
Gruff Jones: Ga i ofyn cwestiwn?
Rhanna Gruff Jones (nhw) o'r band Swnami ysbrydoliaeth y gân 'Be Bynnag Fydd' a dod i adnabod eu hunain fel person anneuaidd. Gruff Jones discusses being non-binary.
Yn y bennod hon, aiff Gruff (nhw) â ni ar eu taith o ddod i adnabod eu hunain fel person anneuaidd ac o rannu’r daith honno gyda rheiny sydd agosaf atynt, o gyd-aelodau’r band Swnami i’w teulu a’u teulu estynedig. Cawn glywed am ysbrydoliaeth y gân 'Be Bynnag Fydd' ac arwyddocâd y geiriau "rhwng dwy lan ond heb ddeall pam, yn perthyn i ddim" yn ogystal â gofyn y cwestiwn "sut mae modd holi am hunaniaethau traws ac anneuaidd heb sarhau neu ymyryd"?
Podcast
-
Esgusodwch fi?
Sgwrsio, chwerthin a dadlau yng nghwmni Iestyn Wyn, Meilir Rhys Williams a’u gwesteion.