Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 19eg 2023

Podlediad Newydd, Tomatos, La Liga, Fflemeg, Daeargryn, Clwb Ifor Bach, Ysgol Penweddig

Pigion Dysgwyr – Podlediad I Fyfyrwyr

Bore Llun diwetha cafodd Aled Hughes sgwrs ar ei raglen gyda Cerith Rhys-Jones a Steffan Alun Leonard. Mae’r ddau wedi rhyddhau podlediad newydd o’r enw 'Sgwrsio am Brifysgol' sy'n rhoi blas i ddarpar-fyfyrwyr ar beth yw bywyd coleg, gyda phrofiadau myfyrwyr go iawn.

Rhyddhau To release

Darpar-fyfyrwyr Prospective students

Rhannu profiadau Sharing experiences

Gwerthfawr Valuable

Cyflwyno To present

Teimlo’n gartrefol Feeling at home

I ryw raddau To some extent

Yn gwmws Yn union

Rhinwedd Merit

Mewnwelediad Insight

Trawstoriad eang A wide cross-section

Pigion Dysgwyr – Tomatos

Podlediad gwerthfawr iawn ac amserol hefyd gyda chymaint o fyfyrwyr yn cychwyn ar eu taith brifysgol yn ystod y mis hwn.
Ychydig wythnosau yn ôl ar Pigion clywon ni sgwrs rhwng Adam Jones sef Adam yn yr Ardd a Shan Cothi. Rhoddodd Adam her i Shan i dyfu tomatos ac adrodd yn ôl ar ddiwedd yr haf ar sut aeth pethau. Dyma ddarn o’r sgwrs gafodd y ddau wythnos diwetha….

Her A challenge

Teimlo fel oes Feels like ages

Crasboeth Scorched

Yn y cnawd In the flesh

Awdurdod Authority

Pencampwyr Champions

Carotsen Moronen

Llawn cystal Just as good

Iseldiroedd Netherlands

Chwerw Bitter

Pigion Dysgwyr – Fflemeg

Wel pwy fasai’n meddwl mai rhywun o’r Iseldiroedd sy’n gyfrifon am liw oren moron, on’d ife!
Iseldireg wrth gwrs yw iaith y wlad honno, ond mae hi hefyd yn cael ei siarad mewn rhan o Wlad Belg sef Fflandrys.
Ac yn Fflandrys yn ddiweddar mae'r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud Iseldireg yn unig iaith yr iard ysgol.
Mae’r Dr Guto Rhys, yn byw ac yn magu ei blant yn Fflandrys a dyma fe i esbonio mwy am y sefyllfa ar Dros Ginio bnawn Mawrth……

Cenhedlaeth Generation

Tafodieithoedd Dialects

Cymhleth Complicated

Pryder A concern

Gorfodi To compel

Tybio To presume

Anniddigrwydd Discontent

Anghyfleus Inconvenient

Iaith leiafrifol Minority language

Iaith rymus A powerful language

Pigion Dysgwyr – Bethan Rhys Roberts

Hanes sefyllfa gymhleth ieithoedd Gwlad Belg yn fanna gan Dr Guto Rhys.
Mae’n wythnos a hanner bellach ers i ddaeargryn nerthol daro dinas Marrakech ac ardaloedd cyfagos. Un oedd yn y ddinas ar y pryd oedd Bethan Rhys Roberts, un o newyddiadurwyr Â鶹ԼÅÄ Cymru. Dyma hi ar raglen Bore Sul yn esbonio beth ddigwyddodd ar yr union eiliad pan darodd y daeargryn……

Daeargryn nerthol A powerful earthquake

Hynafol Ancient

Strydoedd culion Narrow streets

Sŵn byddarol A deafening noise

Dychrynllyd Frightening

Ymgynnull To congregate

Llafnau Slabs

Dymchwel To collapse

Sgrialu Scrambling

Anhrefn Disarray

Yn reddfol Instinctively

Pigion Dysgwyr – La Liga

Ac yn drist iawn wrth gwrs buodd miloedd o bobl farw ym Morocco yn dilyn y daeargryn. Bethan Rhys Roberts yn fanna yn rhoi syniad i ni o’r sefyllfa ddychrynllyd ym Marrakesh.
Mae tîm pêl-droed pentre Llanfairpwll ar Ynys Môn wedi cael noddwyr newydd ar gyfer y tymor newydd. Mi fydd enw’r gynghrair Sbaenaidd - LaLiga - ar flaen crysau'r chwaraewyr eleni. Ie wir, darn o España ar dir Ynys Môn.

Hannah Thomas ydy ysgrifennydd y tîm, a dyma hi i esbonio mwy ar Dros Frecwast fore Mercher

Noddwyr Sponsors

Ysgrifennydd Secretary

Yn raddol Gradually

Pwyllgor Committee

Manteision Advantages

Hogia Bechgyn

Diolchgar Thankful

Denu To attract

Pigion Dysgwyr – Clwb Ifor Bach

Wel dyna ni, tybed fyddwn ni’n gweld Llanfairpwll yn chwarae yn erbyn Barcelona neu Real Madrid yn y dyfodol!
Dych chi wedi ymweld â Chlwb Ifor Bach yng Nghaerdydd erioed? Sefydlwyd y clwb bedwar deg o flynyddoedd yn ôl er mwyn rhoi llwyfan i fandiau Cymraeg chwarae, a hefyd fel man ble gallai siaradwyr Cymraeg y Brifddinas ddod i gymdeithasu. Nos Sul darlledwyd rhaglen i nodi y garreg filltir bwysig, hon ac mae cyfle wrth gwrs i chi wrando ar y rhaglen gyfan ar Â鶹ԼÅÄ Sounds…..

Llwyfan A stage

Darlledwyd Was broadcast

Carreg filltir Milestone

Sylfaenwyr Founders

Cyfeddach Companionship

Hwb cymdeithasol Social hub

Sefydliad Establishment

Cynhyrchydd Producer

Pigion Dysgwyr – Rhys Taylor

Sefydliad arall oedd yn dathlu carreg filltir arbennig oedd Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, a dathlu pumdeg o flynyddoedd ers ei sefydlu oedd yr ysgol hon. Cafodd y cerddor Rhys Taylor sgwrs gyda Caryl Parry Jones wythnos diwetha gan fod Rhys yn gyn-ddisgybl yr ysgol. Nos Sadwrn roedd e’n un oedd yn cymryd rhan mewn cyngerdd yn Nghanolfan y Celfyddydau y dre fel rhan o’r dathliadau

Cerddor Musician

Breintiedig Privileged

Oes euraidd Golden age

Preswyl Residential

Cerddorfeydd Orchestras

Brolio To boast

T’mod Rwyt ti’n gwybod

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

17 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad