Bardd y Mis - Hywel Griffiths
Cario’r Corwg
Daliwn i gario’r corwg
drwy oriau mân rhwydi’r mwg
sy’n codi o Deifi’n darth –
corwg cain fel craig Cenarth;
cario gan obeithio bod
ambell asgell o gysgod
helyg am godi’i hwyliau
yn y dŵr rhyngom ein dau.
Dau i’w walts ar ddrych y dŵr
yn cerdded, at y corddwr
o lif i lywio i afael
ei gerrynt hÅ·n, tyner, hael
ydym ni; dau yma’n un
â’r rhyd a’r dyfnder wedyn;
cof cyfan rhwng ceulannau
yn ein rhwyd lawn yn parhau.
Ond mae’r sewin yn brinnach
o fawn i fôr, dalfa’n fach
o’r afon sy’n trochioni,
a than warth ein carthion ni
rhwng graean mân heno mae
y tail a’r hen fetelau,
a rhwydwaith maith tir a môr
yn twymo fesul tymor.
Be wnawn â’n rhwydi llawnion?
a llyw iaith sy’n deall hon,
afon ein holl hynafiaid?
Be wir, a gwenwyn di-baid
y teid yn boeth o bob tu,
enwau’r pyllau yn pallu?
Be wnawn ond cario’r corwg
a mynd yn dawel i’r mwg?
Hywel Griffiths
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Llyfr Sgwrs Dan y Lloer
Hyd: 10:08
-
Nadolig yn Awstralia
Hyd: 07:45
-
Apêl oesol dramâu Shakespeare
Hyd: 09:17
-
Panad, paned, dishgled...
Hyd: 07:35