Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 29ain 2023

Stacy Blythe, Dawnsio Gwerin, Dwyieithrwydd, Elin Maher, Damwain Awyren a Sioe Wledig.

Pigion Dysgwyr – Stacey

Mae Shelley Rees a Rhydian Bowen Phillips wedi bod yn cadw sedd Emma Walford a Trystan Ellis Morris yn gynnes dros yr wythnosau diwetha ac yn ddiweddar caethon nhw air gydag un ddysgodd Gymraeg 25 mlynedd yn ôl. Stacey Blythe yw ei henw hi, mae hi’n storïwraig ac yn gerddor sy’n dod o Birmingham yn wreiddiol ond sy’n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn...

Storïwraig Storyteller (female)

Cerddor Musician

Tmod Ti’n gwybod

Cyfansoddwraig Composer (female)

Ceinciau Branches

Bodoli To exist

Enaid Soul

Pigion Dysgwyr – Eiry Palfrey

Stacey Blythe yn fanna yn dal yn frwd dros y Gymraeg ar ôl ei dysgu 25 mlynedd yn ôl.
Mae llyfr newydd ei gyhoeddi gan Eiry Palfrey sy’n sôn am hanes a thraddodiad dawnsio gwerin yng Nghymru. Llwybrau’r Ddawns yw enw’r llyfr, a dyma Eiry yn sôn wrth Nia Parry, oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn dwym yr wythnos diwetha, am gefndir cyhoeddi’r llyfr

Brwd Enthusiastic

Dogfen Document

Cyfrifol Responsible

Dow dow Very slowly

Dallt y dalltings Knowing the ins and outs

Hoelion wyth Eminent people

Adfer To restore

Aelwydydd Â鶹ԼÅÄs

Pigion Dysgwyr – Dwyeithrwydd

Bach o hanes dawnsio gwerin yng Nghymru yn fanna gan Eiry Palfrey, awdures Llwybrau’r Ddawns.
Roedd ymchwil diweddar yn dangos bod gan unigolion oedd yn ddwyieithog sgiliau cof gwell na phobl oedd yn unieithog, ond dyw hi ddim mor syml â hynny yn ôl Dr Peredur Glyn Webb-Davies. Dyma fe’n sôn am yr unig elfen o’r ymchwil sy’n dangos bod cof gwell gan bobl ddwyieithog na’r rhai sy’n gallu siarad un iaith yn unig...

Ymchwil Research

Dwyieithog Bilingual

Llefaru To speak

Cymhleth Complicated

Cadarnhau To confirm

Pigion Dysgwyr – Elin Maher

Ond wrth gwrs mae sawl mantais dros fod yn ddwyieithog on’d oes yna? Yn enwedig yn Nghymru’r dyddiau hyn.
Mae Elin Maher yn dod o Gwm Tawe’n wreiddiol ond yn byw yng Nghasnewydd gyda’i theulu ers ugain mlynedd. Buodd hi’n gweithio’n galed dros y blynyddoedd yn datblygu addysg Gymraeg, a’r Gymraeg o fewn y gymuned, yng Ngwent. Hi hefyd oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol wythnos diwetha a dyma hi’n sôn am ambell i her oedd rhaid ei hwynebu wrth ymladd dros addysg Gymraeg yn y Sir.

Her A challenge

Safleoedd Sites

Agwedd Attitude

Cynghorwyr Councillors

Ddim o reidrwydd Not necessarily

Brwydr A fight

Dealltwriaeth Understanding

Heb os nac oni bai Without doubt

Cydnabod To acknowledge

Dychymyg Imagination

Pigion Dysgwyr – Adri

A diolch byth am bobl fel Elin sy’n dal i frwydro dros addysg Gymraeg on’d ife?
Mae Heledd Cynwal wedi bod yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes yn ddiweddar, a dydd Mercher diwetha gwahoddodd hi ddysgwraig Cymraeg o’r Iseldiroedd sef Adri Witens ar ei rhaglen. Mae Adri yn byw mewn tref fechan ger dinas yr Haag a dysgodd Gymraeg ar ôl iddi hi ymweld ag Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen ddechrau’r 80au. Dyma hi’n sôn am daith awyren ddiddorol gaeth hi yn y gorffennol...

Iseldiroedd Netherlands

Anaddas Unsuitable

Tanwydd Fuel

Suddo To sink

Arfordir Coastline

Creigiau Rocks

Darlledu To broadcast

Doniol Funny

Pigion Dysgwyr – Dianne Roberts

On’d yw Atri’n gymeriad a hanner?
Dianne Roberts yw Trysorydd Sioe Arddwriaethol Llangernyw ger Llanrwst. Eleni mae’r Sioe yn dathlu ei bod wedi cael ei chynnal am 175 o flynyddoedd. Dyma Dianne i sôn mwy..

Sioe arddwriaethol Horticultural show

Annog To encourage

Hen bryd About time

Hud a lledrith Magic

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

13 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad