Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 15fed 2023

Eisteddfod Genedlaethol Boduan, Dysgwr y Flwyddyn, Cymru a'r Byd, Bywyd Morwr, Ffobia

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Trystan ab Ifan dw i ac i ddechrau'r wythnos yma …

Pigion Dysgwyr – Dechrau‘r Steddfod

Buodd Radio Cymru‘n darlledu o Faes yr Eisteddfod ym Moduan drwy’r wythnos diwetha gan ddechrau am ganol dydd ar y dydd Sadwrn cyntaf. Dyma sut dechreuodd y darlledu……

Darlledu To broadcast

Cynnau tan To light a fire

Cynnal To maintain

Blodeuo To flower

Eisteddfodwr o fri A renowned Eisteddfod person

Hawlio To claim

Deuawd Duet

Craith A scar

Llwyfan Stage

Noddi To sponsor

Pigion Dysgwyr – Martin Croydon

…ac wrth gwrs bydd blas ar sawl darllediad o’r Eisteddfod yn y podlediad wythnos yma, gan ddechrau gyda Martyn Croydon enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddeg mlynedd yn ôl. Daw Martin o Kidderminster yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae o’n byw ym Mhen Llŷn.

Gwobr Prize

Enwebu To nominate

Rowndiau terfynol Final rounds

Gwrthod To refuse

Cyfweliad Interview

Beirniaid Judges

Cynifer So many

Cyfathrebu To communicate

Ysbrydoli To inspire

Cynulleidfa Audience

Terfynol Final

Pigion Dysgwyr – Dysgwr y Flwyddyn

Ac roedd Martyn yn un o’r criw fuodd yn brysur iawn yn cynnal gweithgareddau Maes D yn Steddfod Boduan.
Ond pwy enillodd gwobr Dysgwr y Flwyddyn eleni tybed? Roedd pedwar ymgeisydd ardderchog wedi cyrraedd y rownd terfynol, a dydd Mercher yn yr Eisteddfod cyhoeddwyd mai Alison Cairns yw Dysgwr y Flwyddyn eleni. Daw Alison yn wreiddiol o’r Alban ond mae hi a’i theulu erbyn hyn yn byw yn Llannerchymedd ar Ynys Môn. Dyma hi’n sgwrsio ar Post Prynhawn yn dilyn y seremoni wobrwyo.

Y gymuned The community

Pigion Dysgwyr – Esyllt Nest Roberts de Lewis

A llongyfarchiadau i Alison ar ennill y wobr – dwi’n siŵr bydd hi’n mwynhau ei blwyddyn.
Daw Esyllt Nest Roberts de Lewis yn wreiddiol o Bencaenewydd ger Pwllheli ond mae hi erbyn hyn yn byw yn ardal Gymraeg Patagonia, sef Y Wladfa, ac wedi bod yno ers nifer o flynyddoedd. Ar Dros Frecwast yr wythnos diwetha cafodd Kate Crocket gyfle i’w holi hi gan ofyn iddi’n gynta iddi pam aeth hi allan i’r Wladfa yn y lle cynta?

Yn y cyfamser In the meantime

Annerch To address (a meeting)

Y cyfryngau The media

Dylanwadu To influence

Rhyngrwyd Internet

Yn anymwybodol Unaware

Pigion Dysgwyr – Cai Erith

Ac Esyllt oedd yn arwain Cymru a’r Byd, sef y Cymry sy’n byw ym mhob rhan o’r byd erbyn hyn, yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni
Os chwiliwch chi ar Â鶹ԼÅÄ Sounds gwelwch raglen arbennig wnaeth Aled Hughes ei recordio dan y teitl Mordaith. Rhaglen yw hi lle mae Aled yn hwylio o amgylch Penrhyn LlÅ·n yn sgwrsio gyda rhai o drigolion yr ardal. Morwr yw Cai Erith a dyma fe’n sôn ychydig am ei fywyd

Penrhyn Peninsula

Trigolion Residents

Porthladdoedd Ports

Yn llythrennol Literally

Wedi dy hudo di Has lured you

Pigion Dysgwyr - Ffobia

Hanes bywyd diddorol Cai Erith yn fanna ar raglen Mordaith.
Buodd Catrin Mai yn siarad ag Emma Walford a Trystan Ellis Morris ar eu rhaglen yn ddiweddar. Mae gan Catrin ffobia anarferol iawn… sbyngau, neu sponges! Dyma Emma yn holi Catrin gynta…….

Cyffwrdd To touch

Colur Makeup

Fatha Yr un fath â

Trin To treat

Nadroedd Snakes

Corynnod Pryfed cop

Arnofio To float

Amsugno To absorb

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

14 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad