Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 8fed 2023

Rapio, Nofio yn y Seine, Y Rhuban Glas, Wil Sam, Dysgwr y Flwyddyn, Rhedeg yn Araf

Pigion Dysgwyr – Lloyd Lewis

Gwestai arbennig Bore Sul yn ddiweddar oedd y rapiwr Lloyd Lewis. Mae e wedi perfformio ar y cae rygbi, ar deledu, ac mae e’n falch ei fod e'n Gymro Cymraeg aml-hil. Dyma Lloyd yn sôn wrth Betsan Powys am ei ddyddiau ysgol...

Yn ddiweddar Recently

Aml-hil Mixed-race

Amrywiaeth Variety

Ystyried To consider

Pigion Dysgwyr - Nofio yn y Seine

Y rapiwr o Cwmbrân , Lloyd Lewis oedd hwnna’n sgwrsio gyda Betsan Powys.
Cyn bo hir mae'n bosib bydd pobl Paris yn gallu nofio yn yr afon Seine. Mae can mlynedd union wedi mynd heibio ers i nofio yn yr afon gael ei wahardd am fod gwastraff o bob math yn peryglu iechyd y nofwyr. Dyma Ceri Rhys Davies sy'n byw ym Mharis yn sgwrsio gyda Dewi Llwyd ar Dros Ginio wythnos diwetha…...

Gwahardd To ban

Deugain mlynedd 40 years

Cydnabyddiaeth Acknowledgement

Brwnt Budr

Yn raddol Gradually

Mynd i’r afael To get to grips

Breuddwyd gwrach Pipe dream

Pigion Dysgwyr – John Eifion Jones

Ac ers y sgwrs honno daeth y newyddion bod nofio yn y Seine wedi cael ei wahardd eto oherwydd lefel y gwastraff yn yr afon. Gobeithio bydd popeth yn iawn erbyn Gemau’r Olympaidd on’d ife?
Yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 1999 enillodd y tenor John Eifion Jones y Rhuban Glas i gantorion. Mae’r Rhuban Glas neu Gwobr Goffa David Ellis yn 80 oed eleni ac ar Raglen Bore Cothi wythnos diwetha gofynnodd Shan Cothi i John Eifion Jones, beth oedd e’n gofio am yr adeg enillodd e’r gystadleuaeth……

Gwobr Goffa Memorial Prize
Y to ifanc The young generation

Y darnau gosod The set pieces

O’r neilltu To one side

Unawd Solo

Nefolaidd Heavenly

Dehongli To interpret

Pigion Dysgwyr – Bara Caws

Y tenor John Eifion Jones oedd hwnna’n sôn am yr adeg enillodd e’r Rhuban Glas, ond pwy fydd yn ennill y Rhuban yn Eisteddfod Boduan tybed?
Ac yn ystod wythnos y Steddfod eleni, bydd Cwmni Theatr Bara Caws yn perfformio Dinas, sef gwaith un o ddramodwyr enwoca’r ardal sef Wil Sam Jones. Ysgrifennodd Wil Sam y ddrama ar y cyd â’r awdur Emyr Humphreys. Aeth Ffion Dafis draw i holi Betsan Llwyd, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni, gan ofyn iddi hi pam penderfynodd y cwmni berfformio Dinas yn y Steddfod….

Enwoca Most famous

Ar y cyd â In collaboration with

Cyfarwyddwr Artistig Artistic Director

Talu teyrnged To pay tribute

Anghyfarwydd Unfamiliar

Yng nghrombil yr adeilad In the depths

Euraidd Golden

Traddodiad llenyddol Literary tradition

Llygad y ffynnon The source (lit: the eye of the well)

Diddanu To entertain

Pigion Dysgwyr – Alan Whittick

Drysau a grisiau amdani felly!
Mae dramâu Theatr Bara Caws wastad yn boblogaidd yn yr Eisteddfod a digwyddiad poblogaidd, a phwysig, arall ydy cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn - gwobr sy’n bedwar deg oed eleni. Ac i ddathlu, mae na aduniad mawr o holl enillwyr blaenorol y wobr wedi ei drefnu yn yr Eisteddfod eleni. Un o’r dysgwyr cynta i ennill y wobr hon oedd Alan Whittick, sydd yn byw yn ardal Llangurig ger Llanidloes ym Mhowys. Dyma fe ar Bore Sul yn sgwrsio gyda Betsan Powys

Aduniad Reunion

Blaenorol Previous

Cyflwyno To introduce

Ymddiddori To be interested in

Trwy gyfrwng Through the medium of

Yn anad dim More than anything

Pigion Dysgwyr – Rhedeg yn Araf

Ac mae pedwar o ddysgwyr gwych yn cystadlu am y wobr – cawn wybod ddydd Mercher pwy sydd wedi ennill
Dych chi wedi clywed am y arfer ddiweddara o Redeg yn Araf? Mae Siwan Elenid yn arwain Clwb Rhedeg yn ardal y Bala, a buodd hi’n siarad gyda Jennifer Jones bnawn Mawrth diwetha ar Dros Ginio am yr arfer newydd yma...

Hygyrch Accessible

Cynhwysol Inclusive

Cyfryngau cymdeithasol Social media

Oriawr Watch

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

14 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad