Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 18fed o Orffennaf 2023

Bwyty Newydd, Sengl Newydd, Caergrawnt, Enwau Llefydd, Aderyn y Mis, Hyfforddwr Gyrru

Pigion Dysgwyr – Bore Sul

Mae’r cogydd Tomos Parry o Ynys Môn ar fin agor ei fwyty newydd yn Soho Llundain, ac ar Bore Sul yn ddiweddar cafodd Bethan Rhys Roberts sgwrs gyda fe am ei fenter newydd ………

Cogydd Chef

Ar fin About to

Dylanwadu To influence

Cynhwysion Ingredients

Gwair Grass

Gwymon Seaweed

Crancod Crabs

Cynnyrch Produce

Pigion Dysgwyr – Trystan ac Emma

A phob lwc i Tomos gyda’i fwyty newydd on’d ife?
Llwyfan y Steddfod ydy enw sengl newydd y canwr o Fethel ger Caernarfon, Tomos Gibson. Mae e ar hyn o bryd yn fyfyriwr yng Ngholeg Menai, a buodd Tomos yn sôn wrth Trystan ac Emma am y broses o gynhyrchu’r sengl

Cynhyrchu To produce

Ddaru o gymryd Cymerodd

Cerddorion Musicians

Cynnwys Including

Unigol Individual

Trefnu To arrange

Profiad Experience

Cyfansoddi To compose

Braint A privilege

Pigion Dysgwyr – Dei Tomos

Wel dyna Tomos arall i ni ddymuno pob lwc iddo heddiw – Tomos Gibson o Fethel gyda’i sengl newydd Llwyfan y Steddfod
Yn ddiweddar darlledwyd rhaglen arbennig o Brifysgol Caergrawnt. Buodd Dei Tomos yn sgwrsio gyda nifer o’r Cymry Cymraeg sy’n astudio yno, ond yn gynta cafodd air gyda Mari Jones sy’n athro Ffrangeg ag yn gymrawd yng ngholeg Peterhouse. Gofynnodd Dei iddi yn gynta am hanes ei gyrfa……

Darlledwyd Was broadcast

Caergrawnt Cambridge

Cymrawd Fellow

Tafodiaith y Wenhwyseg The South East Wales dialect

Safoni To standardise

Mam-gu Nain

Doethuriaeth PhD

Ehangais i I expanded

Anogaeth Encouragement

Arolygwr Supervisor

Pigion Dysgwyr – Aled Hughes

Wel ie, mae’n drueni gweld rhai o’r tafodieithoedd yma’n diflannu on’d yw e?
Ar Instagram a Facebook mae Cynllun Cofnod 2023 yn ceisio cofnodi enwau llefydd bro yr Eisteddfod eleni. Morwen Jones sydd yn rhedeg y prosiect a chafodd air gyda Aled Hughes ar ei raglen ddydd Mawrth diwetha……

Cofnod A record

Pwyllgor celf Art Committee

Codi ymwybyddiaeth raising awareness

Yn sylfaenol Basically

Yn dueddol o Tend to

Y galon The heart

Penillion a cerddi Verses and poems

Atgofion Memories
Croesawus Welcoming

Mwynhad Enjoyment

Pigion Dysgwyr -Aderyn y Mis

Ie, on’d yw hi’n bwysig cadw a chofnodi’r hen enwau d’wedwch?
Aderyn y Mis ar raglen Shan Cothi y mis yma yw’r Gnocell Fraith Fwya. Heledd Cynwal oedd yn cadw sedd Shan yn dwym a gofynnodd hi i’r adarwr Daniel Jenkins Jones sôn yn gynta am gynefinoedd y gnocell …

Cnocell Fraith Fwya Great spotted woodpecker

Cynefinoedd Habitats

Aeddfed Mature

Cynrhon Maggots

Dychmyga Imagine

Tiriogaeth Territory

Cyfarwydd Familiar

Disgyrchiant Gravity

Pigion Dysgwyr – Ifan Evans

Daniel Jenkins oedd hwnna’n sôn am y Gnocell Fraith Fwya .
Mae Alan Hughes o Bentrefoelas yn 85 mlwydd oed ac wedi hyfforddi nifer fawr o drigolion yr ardal i i yrru ceir. Mae’n debyg mai dim ond 2 berson arall ar draws Prydain sy wedi bod yn hyfforddi yn hirach nag Alan. Dyma fe’n rhoi ychydig o’i hanes ar raglen Ifan Evans ddydd Mercher diwetha

Yn dragwyddol All the time

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

12 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad