Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Fai 2023

Y Wladfa, Te, Nofelau Ditectif, Alcoholiaeth, Byd Natur, Gwennol y Bondo

Pigion Dysgwyr – Geraldine MacByrne Jones

Mae Geraldine MacByrne Jones yn yn byw yn Llanrwst, ond yn dod o’r Wladfa yn wreiddiol, sef y rhan o Ariannin ble mae’r Gymraeg yn dal i gael ei siarad. Yr wythnos diwetha buodd hi’n sgwrsio gyda Aled Hughes am sut mae’r ddwy wlad, Cymru a’r Ariannin wedi ei hysbrydoli i farddoni…..

Ariannin Argentina

Ysbrydoli To inspire

Barddoni To write poetry

Tirwedd Landscape

Ysbryd Spirit

Daearyddiaeth gorfforol Geography

Dychymyg Imagination

Ysgogi To motivate

Digwyddiadau hanesyddol An historical event

Pigion Dysgwyr – Dafydd Cadwaladr

Mate ydy’r diod mwya poblogaidd yn y Wladfa ond basai nifer yn dweud mai te ydy diod mwya poblogaidd Cymru, ac roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Yfed Te yn ddiweddar. Ar eu rhaglen fore Gwener buodd Trystan ac Emma yn sgwrsio gyda un sydd yn ffan enfawr o yfed te sef Dafydd Cadwaladr o Fethesda. Dyma fe i sôn am ei hoff de…

Nodweddiadol Typical

Arogl Aroma

Cryfhau a chyfoethogi To strengthen and enrich

Cwdyn Bag

Ysgafnach Lighter

Amrywiaethau Varieties

Deilen A leaf

Cychwyn crino Begins to wither

Gwelltglaets Green grass

Pigion Dysgwyr – Clare Mackintosh

Dafydd Cadwaladr oedd hwnna’n sôn am ei hoff de. Ar ei rhaglen am y Celfyddydau, buodd Ffion Dafis yn sgwrsio gyda’r nofelwraig boblogaidd o ogledd Cymru, Clare Mackintosh. Dyma Clare yn esbonio ychydig am ei gyrfa cyn iddi ddod yn nofelwraig llawn amser…

Poblogaidd Popular

Cefndir Background

Defnyddiol Useful

Ymchwilio To research

Troseddau Crimes

Pigion Dysgwyr – Iola Ynyr

Clare Mackintosh yn sôn am sut mae hi wedi dod â’i phrofiadau fel ditectif i mewn i’w nofelau.
Dydd Sul ar Beti a’i Phobol, Iola Ynyr oedd y gwestai. Mae Iola yn cynnal gweithdai ‘Ar y Dibyn’ – sydd yn herio’r stereoteip o bobol sydd â dibyniaeth. Buodd Iola yn gaeth i alcohol ar un adeg ond mae hi wedi derbyn cymorth 12 cam ac mae hi’n sobor nawr ers dros bedair blynedd. Yn y clip nesa mae hi’n sôn am y prosiect Ar y Dibyn...

Ar y dibyn On the edge

Herio To challenge

Dibyniaeth Addiction

Yn gaeth i Addicted to

Camdrin sylweddau Substance abuse

Digon difyr Interesting enough

Unigolion Individuals

Llenyddiaeth Cymru Literature Wales

O nerth i nerth From strength to strength

Y weledigaeth The vision

Yn benodol Specifically

Pigion Dysgwyr – Bethan Wyn Jones

A phob lwc i brosiect ‘ Ar y Dibyn’ on’d ife?
Mae’r naturiaethwraig a’r ddarlledwraig Bethan Wyn Jones newydd ymddeol o ysgrifennu erthyglau a hefyd o gyfrannu i raglen byd natur Galwad Cynnar ar Radio Cymru. Buodd Dei Tomos ar ei raglen yn sgwrsio gyda hi’n ddiweddar gan ddechrau drwy ei holi am sut dechreuodd hi ysgrifennu colofn i’r Herald Cymraeg.

Darlledwraig Broadcaster

Rhywiogaethau Species

Arfordir Môn Anglesey coast

Planhigion meddigyniaethol Medicinal plants

Y golygydd The editor

Ymateb darllenwyr Readers’ response

Rwbath rwbath Any old thing

Wedi mynd i drafferth Had gone to the bother

Pigion Dysgwyr – Aderyn y Mis

Ac i aros gyda byd natur, bob mis ar raglen Shan Cothi mae’r adarwr Daniel Jenkins Jones yn sgwrsio gyda Shan am un aderyn penodol. Y tro yma roedd Heledd Cynwal yn cadw sedd Shan yn dwym a’r aderyn dan sylw gan Daniel oedd Gwennol y Bondo. Ydych chi’n gallu dweud y gwahaniaeth rhwng Gwennol y Bondo a Gwennol cyffredin? Dyma Daniel yn esbonio...

Gwennol y Bondo House Martin

Gwennol cyffredin An ordinary Sparrow

Plu Feathers

Gwddf Neck

Cynffon fforchog Forked tail

Pryfetach Insects

Uchder Hight

Tebygol Likely

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

13 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad