Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 14eg o Chwefror 2023

Byw yn Awstralia, nofio gwyllt, damwain beldroed, synau tanddwr, dysgu Cymraeg, snwcer

Pigion Dysgwyr – Dion

Mae Dion Paden, sy’n dod o Gerrigydrudion yn Sir Conwy yn wreiddiol, wedi symud i fyw i Darwin yng ngogledd Awstralia, ac yn ddiweddar cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Dion. Gofynnodd Shan iddo fe’n gynta pam symudodd e i Awstralia?

Yn ddiweddar Recently

Pigion Dysgwyr - Meinir

Dion o Darwin yn siarad gyda Shan Cothi yn fanna.
Ar raglen Beti a’i Phobol ddydd Sul y gwestai oedd Meinir Thomas o Ynys Môn. Mae Meinir yn chwarae hoci i dîm dros 55 Menywod Cymru. Mae hi’n hoffi nofio gwyllt hefyd a dyma Meinir i ddweud beth sydd mor arbennig am nofio ym mhob tywydd a hynny drwy’r flwyddyn.

Menywod Merched

Arnofio To float

Tonnau Waves

Plentyndod Childhood

Golwg gwirion arna i I looked ridiculous

Be ar y ddaear…? What on earth…?

Gwefreiddiol Thrilling

Morlo Seal

Pigion Dysgwyr – Dros Ginio 6.2

Meinir yn poeni dim am beth mae pobl yn ei feddwl amdani’n nofio’n wyllt, chwarae teg iddi hi.
Gwestai Dewi Llwyd yn y slot 2 cyn 2 ar Dros Ginio bnawn Llun oedd y cyn bêl-droediwr a’r arlunydd Owain Vaughan Williams, a’i frawd Gethin. Mae Owain erbyn hyn yn hyfforddi gôl-geidwaid Fleetwood Town ac mae Gethin yn gerddor ac yn drydanwr. Dyma’r ddau yn sôn am rywbeth anffodus ddigwyddodd yn eu plentyndod…

Arlunydd Artist

Gôl-geidwaid Goalkeepers

Yn gerddor ac yn drydanwr A musician and electrician

Sail Basis

Go dyngedfennol Really fateful

Llithro To slip

Dychmygu To imagine

Cymar Partner

Dihangfa An escape

Pigion Dysgwyr – Geraint Rhys Whittaker

Y ddau frawd, Owain a Gethin oedd rheina’n sgwrsio gyda Dewi Llwyd.
Yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi bod yn recordio synau anifeiliaid sydd yn byw ym mhegwn y gogledd a phegwn y de. Mae nhw’n aml yn synau does neb byth yn eu clywed. Un sydd wedi gweithio yn y maes yma yw Geraint Rhys Whittaker a buodd e’n siarad am ei waith ar Dros Frecwast fore Mawrth.

Gwyddonwyr Scientists

Synau Sounds

Pegwn y gogledd North Pole

Darganfod To discover

Mor rhyfeddol So amazing

Ail-ddadansoddi To reanalyse

Nodau Aims

Ysbrydoli To inspire

Swnllyd Noisy

Amgylchedd Environment

Pigion Dysgwyr – James Cuff

Stori wyddonol anhygoel yn fanna ar Dros Frecwast.
Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i ddysgu Cymraeg? Cerddoriaeth Gymraeg oedd ysbrydoliaeth James Cuff ddechreuodd dysgu Cymraeg bedair blynedd yn ôl. Erbyn hyn mae e’n ddigon hyderus yn yr iaith i siarad am ei daith bersonol gyda’r Gymraeg ar Radio Cymru. Dyma i chi flas ar sgwrs gafodd e gydag Aled Hughes…

Anhygoel Incredible

Cymreictod Welshness

Mo’yn Eisiau

Becso Poeni

Colli mas To lose out

Pigion Dysgwyr – Snwcyr Amlwch

Gobeithio, on’d ife, bod yna rai eraill fel James gaeth eu hysbrydoli i ddysgu Cymraeg ar Ddydd Miwsig Cymru, ddydd Gwener diwetha.
Ar ei rhaglen nos Fercher cafodd Caryl Parry Jones sgwrs gyda Jeff Price o Amlwch. Jeff yw Is-Gadeirydd clwb snwcer y dre sydd yn dathlu 90 mlynedd ers ei sefydlu. Gofynnodd Caryl i Jeff yn gynta sawl bwrdd snwcer sydd yn y clwb

Is-gadeirydd Vice chairman

Sefydlu Founded

Mae hi’n glamp o neuadd It’s a huge hall

Calch (sialc) Chalk

Rheolaeth Management

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad