Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 24ain 2023

Gordon Ramsay, Sbeisys, Munud i Feddwl, Joe Healy, Peaky Blinders, Glanhau.

Pigion Dysgwyr – Chris Summers

Mae’r cogydd o Gaernarfon Chris Summers newydd symud i Lundain i weithio fel prif chef tafarn hynafol y Cheshire Cheese ar Fleet Street yng nghanol dinas Llundain. Cafodd Trystan Ellis Morris gyfle i holi Chris am ei yrfa fel chef, gan ddechrau gyda’r adeg pan wnaeth e gyfarfod â Gordon Ramsay.

Hynafol Ancient

Lasai fo Basai fe wedi gallu

Poblogaidd Popular

Coelio Credu

Parch Respect

Cyflwyno To introduce

Sbio Edrych

Smalio Esgus

Padell ffrio Ffrimpan

Pigion Dysgwyr – Nerys Howell 16.1

Chris Summers yn amlwg â pharch mawr tuag at Gordon Ramsay, a r’yn ni’n aros ym myd y cogyddion gyda’r clip nesa. Buodd y gogyddes Nerys Howell yn sgwrsio gyda Shan Cothi am y gwahanol ffyrdd r’yn ni’n defnyddio sbeisys...

Ryseitiau Recipes

Sy’n cynnwys Which include

Sawrus Savoury

Tanllyd Fiery

Pobi To bake

Ymchwil Research
Penodol Specific

Buddion iechyd Health benefits

Meddyginiaethau Medicines

Afiechydon Illnesses

Pigion Dysgwyr – Munud I Feddwl 17.1

Nerys Howell oedd honna’n siarad am sbeisys gyda Shan Cothi. Arhoswn ni gyda Bore Cothi i wrando ar y Parchedig Ddoctor Manon Ceridwen James yn rhoi Munud i Feddwl i ni fore Mawrth.

Parchedig Reverend

Digalon Trist

Dyled Debt

Manteisio To take advantage of

Llonni’r galon To gladden the heart

Diddanu To entertain

Iselder Depression

Tywynnu Shining

Cadarnhaol Positive

Cysuro To comfort

Pigion Dysgwyr – Joe Healy 16.1

A rhywbeth arall sy’n llonni’r galon ar ddydd Llun Glas yw dysgu Cymraeg on’d ife, a does dim gwell esiampl o hynny na Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 ac sydd nawr yn diwtor Cymraeg i Oedolion ei hunan. Mae Joe yn dod o Wimbledon yn wreiddiol, a chafodd Aled Hughes sgwrs gyda fe a chael ychydig o’i hanes...

Sylweddoli To realise

Cynrychioli To represent

Anhygoel Incredible

Yn llythrennol Literally

Trywydd Thread

Enwebu To nominate

Pigion Dysgwyr – Peaky Blinders 17.1

Ie, anhygoel on’d ife? Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn ac nawr yn dechrau gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion.
Mae’r gantores a’r actores Mabli Gwynne ar hyn o bryd yn perfformio yn Sioe Peakey Blinders yn Camden yn Llundain. Cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda hi fore Mercher am y sioe.

Cymeriadau Characters

Creadigol Creative

Denu To invite

Menyw Merch

Gwyddeles Irish Woman

Greda i! I don’t doubt it!

Adolygiadau Reviews

Clyweliad Audition

Pigion Dysgwyr – Caren Hughes 17.1

Mabli Gwynne oedd honna’n sôn am ei chymeriadau yn sioe Peaky Blinders.
Pa mor daclus ydy eich tŷ chi? Wel os dych chi eisiau ‘tips’ ar sut i dacluso, Caren Hughes o Ynys Môn ydy’r un i chi. Dyma hi’n dweud wrth Caryl Parry Jones am y ffordd orau i gadw’r ystafell ymolchi’n daclus...

Cadachau Cloths

Di-raen In poor condition

Gweddill The rest of

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad