Gerddi Rheilffordd Sblot, Caerdydd.
Railway Gardens/ Gerddi Rheilffordd - Ma’r cynllun yn ardd gymunedol yn Sblot - llecyn o dir sydd wedi bod yn rhandir, yn le chwarae a iard wastraff o fath yn y gorffennol. Yn fwy diweddar, roedd y tir yn cael ei ddefnyddio gan gontractwyr tra’n trydaneiddio’r brif linell trên o Lundain i Gaerdydd. Oddeutu 6 mlynedd yn ol fe wnaeth Green Squirrel gychwyn gwaith ymgynghori efo’r gymuned i weld os fyddai diddordeb i wneud cais gan y Cyngor i ddefnyddio’r tir fel ased cymunedol. O’r cychwyn roedd yn amlwg fod trigolion Sblot yn gefnogol - does na ddim un lle canolog i’r gymuned ddod at ei gilydd, ac mae llefydd gwyrdd yn brin yn yr ardal. Ar ol blynyddoedd o waith caled a chodi arian, mae’r ardd nawr ar agor. Mae'n le i bawb ddod at eu gilydd i dyfu planhigion a llysiau, yn fan cwrdd a rhannu gwybodaeth a dysgu sut i arddio.
Ffion Williams a Hannah Garcia sydd yn sgwrsio gyda Leisa Gwenllian.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Newid Hinsawdd: Taid a Fi - Caerdydd
-
Creu gemwaith o wastraff
Hyd: 09:43
-
Creu gemwaith o wastraff adeiladu
Hyd: 09:14
Mwy o glipiau Newid Hinsawdd a Fi
-
Creu gemwaith o wastraff
Hyd: 09:43
-
Creu gemwaith o wastraff adeiladu
Hyd: 09:14
-
Defnyddio celf i helpu'r blaned.
Hyd: 09:58