Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Awst 2022

Podlediad Pigion y Dysgwyr 2il o Awst 2022

Gwneud Bywyd yn Haws
Hanna Hopwood yn holi Gwenllian Thomas, sy鈥 wrth ei bodd yn gwneud triathlon 鈥 nofio, rhedeg a beicio! Mae hi鈥檔 fam brysur ond mae cymryd rhan mewn triathlon yn rhan bwysig o鈥檌 bywyd. Sut dechreuodd ei diddordeb yn gamp tybed?

Camp Sport

Bant I ffwrdd

Dim taten o ots Dim ots o gwbl

Croesawu To welcome

Meddylfryd Mindset

Rhannu profiadau To share experiences

Dros Frecwast 鈥 Gemau'r Gymanwlad

Gwenllian yn fan鈥檔a yn s么n am ei diddordeb mewn triathlon sef un o鈥檙 campau cynta i ddigwydd yn Ngemau鈥檙 Gymanwlad eleni. Agorwyd y Gemau yn Birmingham ar yr 28ain o Orffennaf a chafodd Ifan Gwyn Davies sgwrs efo Ashleigh Barnikel sy鈥檔 cymryd rhan yn y Gemau fel aelod o garfan Jiwdo Cymru...

Gemau鈥檙 Gymanwlad Commonwealth Games

Carfan Squad

Un fodfedd dros bum troedfedd Five foot one

Dwywaith ei maint Twice her size

Pencampwraig Champion (female)

O ddifri Seriously

Rhyngwladol International

Torfeydd Crowds

Ail wynt Second wind

Dros Frecwast 鈥 Ewros y merched

A phob lwc i garfan Cymru yn y Gemau ynde?
Mi wnawn ni aros ym myd y campau efo鈥檙 clip nesa 鈥榤a, ond i fyd p锚l-droed y tro 鈥檓a ac i gystadleuaeth Ewros y Merched 2022. Y Gymraes Cheryl Foster oedd yn dyfarnu鈥檙 g锚m gynderfynol rhwng Ffrainc a鈥檙 Almaen wythnos diwetha ac roedd Cheryl yn arfer chwarae i d卯m p锚l-droed merched Cymru. Lowri Roberts fuodd yn sgwrsio efo Owain Llyr cyn y g锚m..

Dyfarnu To referee

Cynderfynol Semi final

Y Seintiau Newydd TNS

Dychmygu To imagine

Ysbrydoli To inspire

Y genhedlaeth nesa The next generation

Bore Cothi

Yr Almaen enillodd gan fynd 芒 nhw i鈥檙 ffeinal yn erbyn Lloegr, ac mi gafodd Cheryl g锚m dda iawn fel dyfarnwr.

Cafodd Shan Cothi sgwrs efo Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause Mae Helgard yn dod o ardal Pfalz yn Yr Almaen yn wreiddiol, a daeth hi i Gymru yn 2005 ac erbyn hyn mae鈥檔 byw yn Aberaeron. Dwy flynedd ar 么l iddi hi symud i Gymru, dechreuodd Helgard ddysgu Cymraeg ac o fewn ychydig fisoedd, roedd hi鈥檔 rhugl. Pa mor anodd oedd dysgu Cymraeg iddi hi鈥?

Prif Weithredwr Chief Executive

Parhau To continue

Mwyafrif Most

Aled Hughes

Ac mae Helgard yn cael ei hanrhydeddu yn yr Eisteddfod eleni drwy dderbyn y Wisg Werdd. Buodd Aled Hughes yn siarad efo Meirion Pritchard o Landysul ond sy nawr yn byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd efo cwmni Meta. Dyma鈥檙 cwmni sy鈥檔 berchen ar Facebook, Instagram a Whatsapp ac sy鈥檔 datblygu鈥檙 dechnoleg nesa ym myd realaeth rithiol , neu virtual reality. Dyma Meirion yn s么n ychydig wrth Aled am ei gefndir ac am ei waith..

Anrhydeddu To honour

Y Wisg Werdd The Green Gown

Efrog Newydd New York

Sy鈥檔 berchen ar Which owns

Datblygu To develop

Amrywiol Varied

Hyrwyddo To promote

Pensaer Architect

Celf Art

Dylunio To design

Dros Ginio Guto ac Elis

Meirion Pritchard oedd hwnna鈥檔 s么n am sut dechreuodd ei ddiddordeb yn y byd digidol

Dau frawd oedd gwesteion Alun Thomas ar 鈥淒au cyn Dau鈥 bnawn Llun. Dau fardd o bentre Trefor yng Ngwynedd oedd y gwestai. Guto Dafydd, sydd wedi ennill y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a鈥檌 frawd Dr Elis Dafydd sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd. Gofynnodd Alun i Guto鈥檔 gynta oedd y cysylltiad efo barddoniaeth yna pan oedd o鈥檔 ifanc

Barddoniaeth Poetry

Ddim fel y cyfryw Not as such

Gwirioni ar Dwlu ar

Pori To browse

Adeiladol Constructive

Sylw a bri Attention and fame

Clod Praise

Cenfigen Jealousy

Cyfathrebu To communicate

Aeddfedu To mature

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

14 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 麻豆约拍 Radio Cymru,

Podlediad