Main content

Gwaith Fferyllydd wedi’i drawsnewid yn gyfan gwbl

Eleni mae Geraint Davies yn ymddeol fel Cynghorydd Sir dros ardal Treherbert yng Ngwm Rhondda, swydd y bu’n gwneud am dros 30 mlynedd. Bu hefyd yn Aelod Cynulliad dros y Rhondda rhwng 1999 a 2003 , yn fferyllydd lleol am ddegawdau ac yn aelod blaenllaw o glwb tennis lleol.

Bu’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Pentre yn y Rhondda ac yna aeth i astudio Fferylleg ym Mhrifysgol Llundain
Yna yn 1975 agorodd Fferyllfa ei hun yn Treherbert a bu’n gweithio yno am 43 blynedd. Agorodd gangen hefyd yn Nhreorci.
Mae gwaith Fferyllydd wedi’i drawsnewid yn gyfan gwbl ers i Geraint ddechrau ar ei yrfa. Yn y dechrau, i gyd roedd yn ei wneud oedd dosbarthu cyffuriau ag ati.
Newidiodd y sefyllfa yn y 10 mlynedd cyn iddo ymddeol. Roedd cleifion yn dod i mewn i’r Fferyllfa wedi cael eu hanfon yno o’r syrjeri. Roedd yn rhoi cyffuriau iddynt heb orfod talu. Roedd pobl yn cael chwistrelliad y ffliw a covid gan y Fferyllfa.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

6 o funudau