Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 26ain 2022
Ciwcymbyrs, Eden, Siarcod, Adar, Mererid a Hannah Hopwood a ffatri Laura Ashley.
Bore Cothi - Ciwcymbyr
Mae na ddywediad Saesneg 'cool as a cucumber' yn does? Ond beth sydd y tu Γ΄l i'r dywediad hwn tybed? Alison Huw fuodd yn sgwrsio am hyn efo Shan Cothi...
Sail wyddonol - A scientific basis
Oeri'r gwaed - Cools the blood
Ar drothwy - The onset of
Cynnwys - To include
Dyfrllyd - Watery
Unigryw - Unique
Si - A rumour
Rhesymol - Reasonable
Rhwydd - Hawdd
Cnwd - Crop
Dyna ni felly - ewch ati i blannu'ch ciwcymbers!
Eden
Cafodd y band Eden ei ffurfio yn 1996 ac ar Γ΄l cyfnod o beidio perfformio mi ddaethon nhw'n Γ΄l at ei gilydd yng ngwyl fawr Caerdydd, Tafwyl, yn 2016. Cafodd hyn ei ddisgrifio fel 'comeback' y ganrif ar Golwg 360! Roedd Rachael Solomon yn aelod o'r band a hi oedd gwestai Iwan Griffiths fore Sul. Dyma hi'n sΓ΄n am y profiad o berfformio yn Tafwyl...
Man a man - Might as well
Ymateb - Response
Symudiadau - Movements
Cynulleidfa - Audience
Synnu - To be surprised
Cysylltu - To connect
Www, caneuon newydd gan Eden - rhywbeth i edrych ymlaen ato ynde?
Aled Hughes Siarcod
Ar raglen Aled Hughes clywon ni Lowri O'Neill, myfyrwraig bywydeg ym Mhrifysgol Abertawe, yn sΓ΄n am ei phrofiadau yn nofio efo siarcod yn Hawaii. Oedd hi mewn cawell? Oedd yna reolau am sut i ymddwyn wrth nofio efo nhw? Dyna oedd rhai o gwestiynau Aled i Lowri...
Bywydeg - Biology
Cawell - Cage
Ymddwyn - To behave
Bwystfil - Monster
O hyd - Length
Yn y bΓ΄n - Basically
Cystadleuaeth syllu - Staring competition
Ymddangos - To appear to
Ysglyfaethod gweithredol - Predator
Yn Γ΄l pob golwg - Apparently
Merch ddewr iawn ydy Lowri O'Neill ynde?
Bore Cothi - deg uchaf adar
Dan ni'n aros efo byd natur rΕµan ond efo rhywbeth dipyn llai peryglus na siarcod sef yr adar sy'n dod i'n gerddi yng Nghymru. Gofynnodd yr RSPB i bobl nodi pa adar oedden nhw'n eu gweld yn eu gerddi ac mi wnaeth Daniel Jenkins Jones rannu deg ucha yr arolwg ar raglen Shan Cothi...
Arolwg - Survey
Crybwyll - To mention
Ymdrech - Attempt
Ji-binc - Chaffinch
Pioden - Magpie
Nico - Goldfinch
Ysguthan - Woodpigeon
Drudwy - Starling
Titw Tomos las - Blue tit
Aderyn y to - House Sparrow
Aderyn y to yn ennill unwaith eto, chwarae teg ynde?
Dros Ginio - Mererid a Hanna
Mam a merch oedd gwesteion Dau cyn Dau Dewi Llwyd bnawn Llun diwetha a'r ddwy yn byw yn ardal Caerfyrddin, sef y prifardd Mererid Hopwood a'i merch, y cyflwynydd radio a theledu Hanna Hopwood. Nid yng Nghymru cafodd Hanna ei geni a dyma Mererid yn dweud rhagor am hynny...
Prifardd - National crowned/chaired poet
Cyflwynydd - Presenter
Tystysgrif geni - Birth certificate
Yn benderfynol - Determined
Sylweddoli - To realize
Y cyfnod Llundeinig - The London period
...a dyna beth da bod y teulu wedi symud i Gymru ynde, fel ein bod ni'n medru gwrando ar Hanna'n cyflwyno Gwneud Bywyd yn Haws ar Radio Cymru.
Y Ffatri Ddillad
Roedd ffatri ddillad Laura Ashley yn gyflogwr pwysig yng ngogledd Powys gan roi gwaith i tua wyth cant o bobl yr ardal ar un adeg. Buodd Eddie Bebb o Lanidloes yn gweithio i'r cwmni am 37 o flynyddoedd a chafodd Sian Sutton sgwrs efo am ddyddiau cynnar a llewyrchus Laura Ashley...
Cyflogwr - Employer
Llewyrchus - Prosperous
Hwb - A boost
Ysbryd - Spirit
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.