Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 8fed 2022

Theo Davies-Lewis, Delme Thomas, Perlysiau, Blwyddyn y Teigr, y Wenwyseg a Nel y Parot.

1. Theo Davies-Lewis a Beti ai Phobol

Buodd Beti George yn sgwrsio efo Theo Davies-Lewis y sylwebydd gwleidyddol sydd wedi sgwennu colofnau i'r Spectator, y Times a fo ydy prif sylwebydd gwleidyddol National Wales. Mae o hefyd i'w glywed ar Radio Cymru yn gyson yn trafod materion gwleidyddol a gofynnodd Beti iddo fo sut dechreuodd ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth...

Sylwebydd gwleidyddol - Political commentator
Y chweched - The sixth form
Ymgyrch - Campaign
I ryw raddau - To an extent
Llwyfan cenedlaethol - National stage
Senedd ieuenctid - Youth parliament
Rhydychen - Oxford
Cyfweliadau - Interviews
Darlledu - Broadcasting
San Steffan - Westminster

2. Iwan Griffiths a Delme Thomas

Mae Theo Davies-Lewis yn brysur iawn fel sylwebydd gwleidyddol ac mae hi'n anodd credu mai dim ond 24 oed ydy o, yn tydy? Bore Sul diwetha Iwan Griffiths oedd yn cyflwyno rhaglen Bore Sul ac mi gafodd o gwmni'r cyn chwaraewr rygbi Delme Thomas a dyma Delme'n sΓ΄n am gael ei ddewis i chwarae dros y Llewod am y tro cynta yn 1966.

Cyn chwaraewr - Former player
Y Llewod - The Lions
Tu fas - Outside
Llys-dad - Stepfather
Atgofion - Memories
Y mwya llwyddiannus - The most successful
Y gyfres - The series

3. Bore Cothi - Sbeisys ar fwyd

Delme Thomas oedd hwnna'n sΓ΄n am y teithiau buodd o arnyn nhw efo'r Llewod.
Bore Llun mi fuodd yr hanesydd bwyd, Elin Williams yn sΓ΄n am beth i roi ar fwydydd yn lle halen, a dyma hi'n esbonio wrth Shan Cothi am y gwahaniaeth mae ychwanegu perlysiau'n medru ei wneud i'r bwyd....

Ychwanegu - To add
Perlysiau - Herbs
Gweini - To serve (food)
Yn gynhenid - Inherently
Yn draddodiadol - Traditionally
Hwb - A boost
Rhwydd - Hawdd
Mawn - Peat
Corgimychiaid - Prawns
Lleithder - Moisture

4. Bore Cothi - Blwyddyn Newydd Tsieineaidd

Ac mi wnawn ni aros gyda Bore Cothi am y clip nesa 'ma. Bore Mawrth buodd Shan yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd ac yn sgwrsio efo Karl Davies, sy'n dysgu Saesneg i oedolion yn ninas Foshan, yn Tsieina. Blwyddyn y Teigr ydy hi eleni...

Sidydd - Zodiac
Angerddol - Passionate
Dewr - Brave
Llonydd - Placid
Cwningen - Rabbit
Ymerawdwr - Emperor
Ych - Ox
Nofiwr glew - A courageous swimmer
Cyn gynted ΓΆ - As soon as
Baedd - Boar

5. Geraint Lloyd a Simon Owen Williams

Karl Davies oedd hwnna'n sΓ΄n ychydig am ddathliadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineadd efo Shan Cothi.
Nos Fercher, mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Simon Owen Williams sy'n gweithio yn America. Mae'n Bennaeth ar ysgol breifat yn Long Island Efrog Newydd ac mae'n siarad y Wenhwyseg, sef tafodiaith arbennig de-ddwyrain Cymru.

Efrog Newydd - New York
Tafodiaith - Dialect
Crwt - Hogyn
Trais - Violence
Ymadrodd - Phrase
Safonol - Standard
Hunan ddysgedig - Self taught
Mam-gu - Nain
Wilia - Siarad
Aelwyd - Hearth

6. Trystan ac Emma - Nel y Parot

Mae'n braf clywed y Wenhwyseg yn fyw ac yn iach yn Efrog Newydd yn tydy?
Dw i'n siΕµr basai Nel, parot Mari Lloyd o Gommins Coch, yn medru dynwared Simon yn siarad y Wenwyseg. Mae Nel eisoes yn medru dynwared dwy acen Gymraeg, fel clywodd Trystan ac Emma fore Gwener...

Dynwared - To mimic
Eisoes - Already
Synau - Sounds
Pert - Pretty
Anferth - Huge
Hardd - Beautiful
Plu - Feathers
Uniaith - Monolingual
(acen) Gog neu Hwntw - A north Wales or south wales accent

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru,

Podlediad