Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Chwefror 4ydd 2022

Rebecca Roberts, Max Boyce, Pen-blwydd Mr Urdd, Owain Wyn Evans, Isho Babi a Mot y ci.

1. Beti a'i Phobol a Rebecca Roberts

Buodd Beti George yn sgwrsio efo'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi sgwennu pedair nofel ac wedi ennill sawl gwobr am ei llyfrau. Yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad efo anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel rhai merch yr awdur. Roedd Rebecca wedi bod yn ymgyrchu i gael Llywodraeth Cymru i awdurdodi ysbytai i wario ar goesau a breichiau prosthetig. Dyma hi'n sΓ΄n wrth Beti sut cafodd hi wybod bod yr ymgyrch wedi llwyddo...

Anabledd - Disability
Ymgyrchu - To campaign
Llywodraeth Cymru - The Welsh Government
Awdurdodi - To authorize
Arbenigol - Specialized
Byd o wahaniaeth - A world of difference
Deisebu - To petition
Arbenigedd - Expertise
Gwaith ymchwil - Research
Dadlau fy achos - Arguing my case
Rhoi cynnig arni - To give it a go

2. Cymru Carwyn Iau efo Max Boyce

Rebecca Roberts oedd honna'n sgwrsio gyda Beti George am y gwahaniaeth mae cael coesau prosthetig wedi gwneud i fywyd ei merch.
Yn y gyfres Cymru Carwyn mae Carwyn Jones yn trafod y pethau sy'n gwneud Cymru'n wlad mor arbennig, yn enwedig felly pobl a hanes y wlad. Yn y clip nesa mi gawn ni glywed Carwyn yn sgwrsio gydag un o drysorau mwya Cymru, Max Boyce.

Cymuned - Community
Sylw - Attention
Dwlu bod - Wrth fy modd bod
Hollol lofaol - Predominantly coalmining
Prydferth - Beautiful
Mo'yn - Eisiau

3. Aled Hughes a Mirain Iwerydd

Carwyn Jones oedd hwnna'n sgwrsio gyda Max Boyce.
Mi roedd Mr Urdd yn gan mlwydd oed wythnos diwetha ac mi lwyddodd yr Urdd i ddathlu'r pen-blwydd mewn steil drwy dorri record y byd am y nifer mwya o fideos o bobl yn canu'r un gΓΆn sef Hei Mistar Urdd. Bore Mercher mi roedd y cyflwynydd Mirain Iwerydd yn sgwrsio efo Aled Hughes am y cyfleoedd mae hi wedi eu cael efo'r Urdd gan gynnwys taith i Batagonia. Dyma Mirain yn sΓ΄n am y daith arbennig honno...

Cyflwynydd - Presenter
O bob cwr - From every corner
Y Wladfa - The Welsh settlement in Patagonia
Diolchgar - Thankful
Cyffelyb - Equivalent
Hala ni mas - Anfon ni allan
Llwyfan - Stage
Lledaenu - Spread
Neges Ewyllys Da - The Peace and Good Will Message
Cyfrinach - Secret
Ymwybodol - Aware

4. Betsan Powys ac Owain Wyn Evans

Mirian Iwerydd yn fan'na yn sΓ΄n am rai o'r pethau pwysig mae'r Urdd yn ei wneud. Mae Owain Wyn Evans yn gyfarwydd wrth gwrs fel cyflwynydd y newyddion a'r tywydd, ond yn ddiweddar mae o hefyd wedi dod yn enwog am ei ddrymio. Ar gyfer Plant Mewn Angen buodd o'n drymio am ddau ddeg pedair awr a chodi swm anhygoel o arian. Dyma fo'n datgelu mewn sgwrs efo Betsan Powys faint o bres yn union a godwyd...

Cyfarwydd - Familiar
Pedair awr ar hugain- 24 hours
Anhygoel - Incredible
Datgelu - To reveal
Taw - Mai
Amlwg - Prominent
Cefnogaeth - Support
Anferth - Huge
Her - A challenge
Ffili - Methu

5. Isio Babi

Tri phwynt wyth miliwn o bunnau- dyna swm anhygoel ynde? Nos Fercher mi glywon ni stori Carys Barratt a'i gΕµr, Craig, fuodd yn trio cael babi am flynyddoedd. Mae'r rhaglen yn dilyn hanes Carys dros y misoedd pan oedd hi'n paratoi i gael triniaeth IVF, misoedd o obaith ac o siom. Dyma Carys yn rhoi ychydig o gefndir i ni...

Triniaeth - Treatment
Cefndir - Background
Di-Gymraeg - Ddim yn siarad Cymraeg
Gofal plant - Childcare
Ffodus - Lwcus
Llonni - Gwneud yn hapus
Ar waith - Working

6. Trystan ac Emma a Mot y ci

Pob lwc i Carys ac i Craig ynde? Ac i orffen , dyma i chi hanes anhygoel Mot y ci, aeth ar goll am 5 wythnos. Aeth Tecwyn Vaughan Jones o Fae Colwyn ΓΆ Mot am dro ond rhywsut aeth y ci ar goll. Ar Γ΄l i Tecwyn chwilio a chwilio efo help cymdogion, drones, yn wir help y gymuned gyfan, o'r diwedd gwelodd neges ar Facebook oedd yn rhoi gobaith iddo fo .....

Mi ddaru - Gwnaeth
Ymateb - Response
Wedi crwydro - Had wandered
Tebygrwydd - Similarity
Anobaith llwyr - Sheer hopelessness
Traddodiad - Tradition
Dianc - To escape
Rhuthro - To rush
Sefyll yn stond - Standing still
Yn cyfarth ac yn llyfu - Barking and licking

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

17 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru,

Podlediad