Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr y 21ain 2022

David Bowie, Becky Brewerton, Y Gylfinir, Baner Bethel, Ariel Jackson a chylchgronau.

1) Aled Hughes - David Bowie

Basai David Bowie wedi bod yn 75 oed eleni a chafodd Aled Hughes sgwrs gydag un o'i ffans mwya , Ffion John. Dyma Ffion yn cofio'r tro cynta iddi hi glywed cerddoriaeth Bowie a sut gwnaeth hynny arwain at ei hobsesiwn gyda fe...

Y fenga Yr ifanca

Cynhyrchu To produce

Ymchwilio To research

Llewygu To faint

Gofod Space

Dychmygu To imagine

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol The National Trust

2) Cofio - Ymarfer Corff

Ffion Jones oedd honna'n sΓ΄n am ei hobsesiwn gyda David Bowie.

Ymarfer Corff oedd thema Cofio pnawn Sul diwetha, ac roedd cyfle i glywed rhan o sgwrs cafodd Dewi Llwyd yn 2015 gyda Becky Brewerton oedd yn chwarae golff yn broffesiynol. Un o Abergele ydy Becky ac adeg y sgwrs roedd hi newydd ddathlu ei phen-blwydd yn 33 oed

Datgelu To reveal

Andros o ifanc Ifanc iawn

Yn y man Mewn munud

Ddaru o Gwnaeth e

3) Bore Cothi - Y Gylfinir

Enillodd Becky Brewerton sawl twrnament golff rhyngwladol ac mae hi dal yn ennill ei bywoliaeth ym myd golff. Daniel Jenkins Jones o'r RSPB ydy 'dyn yr adar' ar Bore Cothi a dydd Mercher buodd e'n trafod yr aderyn sy'n enwog am ei big, sef y gylfinir

Bywoliaeth Livelyhood

Y Gylfinir Curlew

Rhydyddion Waders

Cyfarwydd iawn Very familiar

Cyfandir Continent

Nythu To nest

Ar waenydd On moorlands

Rhostiroedd Heathlands

Plu Feathers

Cryman Sickle

4) Geraint Lloyd - Lluniau

Daniel Jenkins Jones o'r RSPB yn fan'na yn rhannu gwybodaeth am y gylfinir. Mae yna lyfr lluniau sydd yn rhoi ychydig o hanes ardaloedd Efailnewydd, Llannor a Penrhos ym Mhen LlΕ·n yn mynd i gael ei gyhoeddi'n fuan a Rhian Jones fuodd yn sΓ΄n am un o'r hanesion sydd yn y llyfr gyda Geraint Lloyd

Cyhoeddi To publish

Crefyddol Religious

Y Bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century

Porthladd Port

Am wn i I suppose

Gwasanaethau (religious) services

Sefydlu To establish

5) Bore Sul - Ariel Jackson

Hanes y capten llong Hugh Hughes a Baner Bethel yn fan'na ar raglen Geraint Lloyd. Penderfynodd Ariel Jackson o Napa, California ddysgu Cymraeg ar Γ΄l iddi hi weld arwyddion Cymraeg am y tro cyntaf pan oedd hi yma ar wyliau. Erbyn hyn mae hi wedi bod yng Nghymru sawl gwaith, wedi dod yn rhugl yn yr iaith ac wedi dysgu Cymraeg i Puck ...ei chi!

Y Deyrnas Unedig The UK

Y ffin The border

Sir Fynwy Monmouthshire

Swynol Charming

Gorchmynion Commands

Cymuned Community

Llenyddiaeth Literature

Diwylliant Culture

Breuddwyd Dream

6) Gwneud Bywyd yn Haws - Cylchgronau

Ariel Jackson o Napa, California yn siarad ar Bore Sul efo Bethan Rhys Roberts.
Nos Fawrth ar GBYH roedd Hanna Hopwood yn cael cwmni Rhiannon Jenkins o Eifionydd sydd wedi gweithio yn Llundain fel is olygydd ar gylchgronau Cosmopolitan, Men's Health, Women's Health a Runner's World. Pa fath o le yw ei weithio ynddo, tybed?

Is-olygydd Subeditor

Awyrgylch Atmosphere

Cymysgu To mix

Cylchgronau Magazines

Cynnwys Content

O dan bwysau Under pressure

Yn wirioneddol Really

Blaenllaw Prominent

Boed o Whether it be

Lles Welfare

Hyrwyddo To promote

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Βι¶ΉΤΌΕΔ Radio Cymru,

Podlediad