Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Rhagfyr 31ain 2021

Mynydda, Can Nadolig, R. Alun Evans a Betsan Powys, Sian Phillips a Casnewy' Bach

01. Aled Hughes 鈥 Elfyn Jones

Does dim golygfa well, nac oes, na mynyddoedd Cymru yn wyn o dan eira ar ddiwrnod braf o aeaf. Mae鈥檔 demtasiwn mawr i fynd i ddringo鈥檙 mynyddoedd bryd hynny, on鈥檇 yw hi? Ond cofiwch, tasech chi鈥檔 mentro allan mae鈥檙 mynyddoedd yn gallu bod yn lefydd peryglus iawn, fel eglurodd Elfyn Jones sy鈥檔 gadeirydd T卯m Achub Mynydd Llanberis, wrth Aled Hughes

Yn union Exactly

Gorchuddio To cover

Anhygoel Incredible

Denu To attract

Ceudyllau Potholes

Twyllodrus Deceptive

Amgylchiadau Circumstances

Dyffrynnoedd Valleys

Yn wirioneddol Really

Offer Equipment

02. Cofio 鈥 Nia Roberts a Caryl Parry Jones

Cyngor da gan Elfyn Jones yn fan鈥檔a ar raglen Aled Hughes 鈥 byddwch yn ofalus os dych chi am ddringo鈥檙 mynyddoedd yn y gaeaf.
Mae鈥檔 si诺r ein bod yn clywed mwy o ganu adeg y Nadolig nag ar unrhyw adeg y flwyddyn, gyda charolau, caneuon am Sion Corn i鈥檙 plant bach a chaneuon pop Nadoligaidd i鈥檙 plant mawr! Ond beth sy鈥檔 gwneud c芒n Nadolig dda? Dyma i chi farn Nia Roberts a Caryl Parry Jones...

Nadoligaidd Christmassy

Naws Mood

Cydio yn To attach to

Myfyrio To reflect

Addoli To worship

Dyfynodau Quotation marks

Ein heneidiau ni Our souls

Hud a swyn Magic and enchantment

Preseb Manger

Dyheu am To yearn for

03. Dros Ginio 鈥 Betsan Powys ac R Alun Evans

Ac ar ddiwedd y clip yna clywon ni ddarn o un o ganeuon Nadolig Caryl - 鈥淒rama鈥檙 Preseb鈥.

Dau sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i鈥檙 麻豆约拍 dros y blynyddoedd oedd gwestai Dewi Llwyd ar Dros Ginio 鈥揜 Alun Evans a鈥檌 ferch Betsan Powys. Buodd R Alun Evans yn gyflwynydd a chynhyrchydd gyda鈥檙 麻豆约拍 am 32 o flynyddoedd ac yn weinidog gydag enwad yr Annibynwyr am flynyddoedd. Roedd Betsan yn Olygydd Rhaglenni y 麻豆约拍 nes iddi hi roi'r gorau i'r swydd yn 2018. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Cyflwynydd a chynhyrchydd Presenter and producer

Enwad yr Annibynwyr Independents denomination

Golygydd Rhaglenni Programme editor

Siglen Swing

Parchu To respect

Penderfynol, ystyfnig Determined, stubborn

Cymwynasgar Obliging

Cefnogol Supportive

04. Hywel Gwynfryn a Sian Phillips (Darllediad Arbennig Dydd Nadolig)

Un arall sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i鈥檙 麻豆约拍 dros y blynyddoedd ydy Hywel Gwynfryn a fe gafodd y cyfle i gael sgwrs gyda鈥檙 actores fyd enwog Si芒n Phillips, sydd yn dod o Waen-Cae-Gurwen yn Sir Castell Nedd Port Talbot yn wreiddiol. Dyma hi鈥檔 sgwrsio am un rhan o鈥檌 gyrfa wnaeth ddim gweithio cystal 芒 hynny...

Cyfraniad enfawr A huge contribution

Cyhoeddwraig Announcer ( female)

Ro鈥檔 i鈥檔 dwlu ar Ro鈥檔 i wrth fy modd efo

Uffernol Hellish

Cyngor y Celfyddydau Arts Council

Clychau Bells

Mas o anadl Out of breath

Pennaeth Head

05. Geraint Lloyd - Rhys Jones o Gwmffrwd

Dyna stori dda on鈥檇 ife? Mae hyd yn oed Sian Phillips yn gallu bod mewn trwbl gyda鈥檌 bos! Ddaeth Sion Corn i鈥檆h t欧 fore Nadolig? Os mai dod lawr y simnai wnaeth e, gobeithio eich bod wedi gwneud yn si诺r bod y simnai鈥檔 l芒n iddo fe! Glanhawr simneiau ydy Rhys Jones o Gwmffrwd ger Caerfyrddin a gofynnodd Geraint Lloyd iddo fe pam dewisodd e wneud y swydd arbennig hon...

Glanhawr simneiau Chimney sweep

Bachan Dyn

(Di)bennu Gorfffen

Mo鈥檡n Eisiau

Ffili Methu

Tystysgrif Certificate

Tannau nwy Gas fires

06. Geraint Lloyd 鈥 Ar y Map

Rhys Jones oedd hwnna , ac mae ganddo un o swyddi bwysica adeg yma鈥檙 flwyddyn on鈥檇 oes?
Arhoswn ni gyda Geraint Lloyd am y clip nesa hefyd, aeth Geraint 鈥楢r y Map鈥 i bentref bach Casnewydd Bach yn Sir Benfro, sydd yn enwog fel man geni y mor-leidr Barti Ddu. Mae undeg chwech cenhedlaeth o deulu Richard Davies wedi byw yn y pentre hwn, felly fe yw鈥檙 dyn i s么n am berson enwoca Casnewydd Bach a dyma fe鈥檔 s么n am hanes Barti Ddu wrth Geraint Lloyd...

Man geni Birthplace

Morleidr Pirate

Cenhedlaeth Generation

Taw Mai

Yn lled ifanc Quite young

Crydd Cobbler

Cofnodi To record

Carreg goffa Memorial stone

Trichanmlwyddiant Tercentenary

Genedigaeth Birth

Marwolwaeth Death

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

17 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 麻豆约拍 Radio Cymru,

Podlediad