Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 19eg o Dachwedd 2021

Pabi Coch, Merched yn y Rhyfel Byd 1af, Cerdd Dant, Planedau a Give Peace a Chance

1. Dros Ginio - Pabi Coch

Roedd hi’n Sul y Cofio ddydd Sul diwetha a llawer o bobl yn falch o wisgo’r pabi coch yn symbol i gofio am y rhai gollodd eu bywydau mewn rhyfeloedd.
Ond o ble ddaeth y symbol yma? Pam mai pabi coch dyn ni’n ei wisgo? Dyma’r hanesydd Iwan Hughes yn rhoi cefndir y pabi coch mewn sgwrs gyda Catrin Haf Jones ar raglen Dros Ginio…

Deillio To derive

Claddu To bury

Ffrind pennaf Best friend

Ysbrydoliaeth Inspiration

Teyrnged Tribute

Arferiad Custom

Mabwysiadu To adopt

Yn ddiweddarach Later on

Plant amddifad Orphans

Dylanwad Influence

Adnabyddus Aware

2. Rhaglen Aled –Merched yn y Rhyfel Byd 1af

Ychydig o hanes y pabi coch yn fan’na ar Dros Ginio. Ac i aros gyda Sul y Cofio cafodd Aled Hughes sgwrs gyda’r hanesydd Elin Tomos am gyfraniad merched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf …

Cyfraniad Contribution

Delwedd traddodiadol Traditional image

Ymddwyn To behave

Argraffu To print

Cymwysedig Qualified

Unigryw Unique

Wedi gwirioni’n lân Yn dwlu ar

Carcharorion Rhyfel Prisoners of War

Teimladwy Poignant

3. Rhys Mwyn - Geraint Jones - Planedau

Yr hanesydd Elin Tomos yn fan’na yn sôn am gyfraniad enfawr merched yn ystod y rhyfel byd cyntaf. Nos Lun roedd Rhys Mwyn a’i westeion yn dewis a chwarae traciau oedd yn cyfeirio at y planedau a’r sêr, fel rhan o dymor y Â鶹ԼÅÄ, Ein Planed Nawr. Dyma glip o Rhys yn sgwrsio gyda Geraint Jones, sy’n bennaeth Astudiaethau’r Planedau yn yr UCL yn Llundain.

Ymchwil Research

Llong ofod Spaceship

Sadwrn Saturn

Lleuadau Moons

Nentydd Brooks

Nwyon Gases

Hylif Liquid

Brwdfrydig Enthusiastic

Seryddiaeth Astronomy

4. Canu Protest

Geraint Jones oedd hwnna’n sôn am y blaned Sadwrn , y lleuadau a Blur gyda Rhys Mwyn. Mae cyfres rhif 3 o ‘Canu Protest’ yn ôl. Gruff Lynch a Dyl Mei sy’n edrych ar hanes canu protest yn Iwerddon, Yr Alban, a Lloegr. Yn y clip yma, dyn ni’n clywed gan Gruff a gan y casglwr recordiau Meurig Jones am gân brotest enwog y Beatles...

Arbrofol Experimental

Terfyn An end

Enwoca Most famous

Ddaru nhw Wnaethon nhw

5. Cerdd Dant, Canu Gwerin a'r Geroddorfa

Hanes cân brotest y Beatles Give Peace a Chance yn fan’na gyda Griff Lynch a Meurig Jones. Canu bach yn wahanol nawr sef canu gwerin a chanu cerdd dant. Mae cerdd dant yn fath arbennig o ganu yn Gymraeg sy’n gofyn am sgiliau gwahanol iawn i unrhyw fath arall o ganu. Cantores gwerin ydy Linda Griffiths a chafodd hi her i ganu cerdd dant gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y Â鶹ԼÅÄ Dyma Linda’n sgwrsio gyda Lisa Gwilym am ei phrofiad o ganu cerdd dant gyda’r gerddorfa.

Her A challenge

Yn gyhoeddus In public

Cyhur Muscle

Anadlu To breathe

Y bwriad The intention

Bedydd tân Baptism of fire

Amser prin Short space of time

Ces i gathod bach (idiom) I had kittens

Canolbwyntio To concentrate

Egwyddor Principle

Cyfleu To convey

6. Troi'r Tir - Meithrinfa Cwtsh y Clos

Linda Griffiths yn fan’na i weld wedi mwynhau’r profiad o ganu cerdd dant. Ar Troi’r Tir wythnos diwetha clywon ni am hanes meithrinfa ger Llanarthne, Sir Gaerfyrddin sydd ar glos fferm. Meithrinfa Cwtsh Y Clos yw enw'r ac a dyma Gwenllian Stephens ac Ann Davies yn rhoi hanes y feithrinfa…

Clos Farmyard

Cyd-berchennog Co-owner

Ansawdd Standard

Galluogi To enable

Achlysur Occasion

Å´yna Lambing

Llo Calf

Da godro Milking cows

Caseg Mare

Antur Adventure

Fel y cyfryw As such

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad