Main content

Pigion y Dysgwyr 15fed Hydref 2021

Nia Roberts, Rali'r Byd a Tom Hanks!

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma 鈥︹

SIWRNA SIONED

Siwrna Sioned, sef rhaglen arbennig am ferch arbennig o Lanrug ger Caernarfon. Cafodd Sioned Roberts ddiagnosis o鈥檙 clefyd Motor Neurone yn 2006. Mae hi am ddefnyddio pob cyfle i rannu ei phrofiadau er mwyn helpu rhai eraill sydd 芒鈥檙 un clefyd. Dyma hi鈥檔 sgwrsio gydag Aled Hughes鈥

Clefyd Disease

Ymlaen llaw Before hand

Iesgob! Goodness!

Sylweddoli To realise

Cryfder Strength

Magwraeth Upbringing

Ymchwil Research

Triniaeth iach芒d A cure

Ymwybyddiaeth Awareness

Cyfryngau cymdeithasol Social media

SIOE SADWRN SHELLEY A RHYDIAN

Ie, fel d鈥檞edodd Aled, roedd Sioned yn gryf, yn ddewr ac yn onest yn fan鈥檔a wrth drafod ei phrofiadau hi o鈥檙 clefyd Motor Neurone. Rhodri Owen oedd gwestai Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn a buodd e鈥檔 s么n am yr adeg pan aeth i gyfweld Matthew Rhys am y ffilm A Beautiful Day in the Neighbourhood. Ond doedd cael cyfweld Mattthew ddim yn ddigon i Rhodri, roedd e am gael gair gyda seren arall y ffilm, sef yr actor enwog Tom Hanks. Lwyddodd e i wneud hynny tybed? Dyma fe鈥檔 dweud yr hanes鈥

Dewr Brave

Cyfweld To interview

Rhes A row

Anhygoel Incredible

Yn llythrennol Literally

Tueddiad ofnadwy An awful terndency

GERAINT LLOYD

Stori anhygoel gan Rhodri Owen am sut lwyddodd e i gael cyfweliad gyda Tom Hanks.
Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda鈥檙 gyrrwr ralio Elfyn Evans ar 么l iddo fe ennill Rali'r Ffindir - y Cymro cyntaf i wneud hynny. Enillodd y gyrrwr o Ddinas Mawddwy, ger Dolgellau naw o 19 cymal y rali heriol yma, ac ennill pum pwynt bonws drwy ennill y cymal olaf.

Ffindir Finland

Cymal Stage (of race)

Heriol Challenging

Yn fwy diweddar More recently

O鈥檙 cychwyn cynta From the very start

Ychydig o fantais A slight advantage

Yn dywyllach darker

Gwastad Level

Tymheredd Temperature

Cyn ised 芒 As low as

BETI A鈥橧 PHOBL

Ac mae hi鈥檔 dal yn bosib i Elfyn ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd, felly pob lwc iddo fe.
Buodd Beti George yn sgwrsio gyda'r fenyw fusnes Sioned Llywelyn Williams, ac yn y clip nesa mae Sioned yn s么n am ei chyfnod yn byw yng Nghaerdydd pan oedd hi鈥檔 ifancach, ac yn esbonio pam ei bod wedi dod yn 么l i fyw i Lanuwchlyn yn Ngwynedd, sef yr ardal ble cafodd hi ei magu鈥

Pencampwriaeth Championship

Ifancach Fengach

Wastad Always

Bwrlwm Buzz

Am gyfnod For a period

Cydnabyddiaeth Acknowledgment

Eithriadau Exceptions

Broydd Region

Yn fwy cyffredin More prevalent

Faswn i鈥檔 tybio I鈥檇 imagine

DEWI LLWYD

Sioned Llywelyn Williams oedd honna鈥檔 falch iawn o fod yn 么l yn Llanuwchllyn.
Roedd stori dda gan westai pen-blwydd Dewi Llwyd sef Nia Roberts.
Stori oedd hon am yr adeg Nia wedi mynd am glyweliad i chwarae rhan merch Owain Glynd诺r mewn ffilm ar gyfer S4C. Y cyfarwyddwr James Hill oedd yn gwneud y penderfyniad ac roedd Nia yn reit hyderus gan mai ei thad hi, J O Roberts, oedd wedi cael ei ddewis i chwarae rhan Owain. Pwy well felly na Nia i chwarae rhan ei ferch? Ond nid felly aeth hi, fel cawn ni glywed yn y clip yma鈥

Clyweliad Audition

Cyfarwyddwr Director

Hogiau Bechgyn

Diarth (dieithr) Strange

Cynhyrchu To produce

Trafodaeth A discussion

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

14 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 麻豆约拍 Radio Cymru,

Podlediad