Main content

Pigion y Dysgwyr 8fed Hydref 2021

Wynne Evans sy'n rhannu uchafbwyntiau Radio Cymru ar gyfer Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg.

Shwmai... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg.
Wynne Evans dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma, wythnos sy鈥檔 rhoi sylw i ddysgu Cymraeg dyn ni鈥檔 mynd at raglen 鈥

BORE COTHI

Mae Kayley Sydenham yn dod o Gasnewydd ac mae hi ar ei blwyddyn gynta ym Mhrifysgol Bangor yn astudio鈥檙 Gymraeg.
Doedd ei rhieni hi ddim yn siarad Cymraeg o gwbl ond penderfynon nhw ei hanfon hi i ysgol Gymraeg.
Hi enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd eleni, ac yn mis Medi, hi oedd Bardd y Mis Radio Cymru.
Dyma hi鈥檔 sgwrsio gyda Shan Cothi am ei chefndir, ac i ddechrau holodd Shan am ei llwyddiant hi yn yr Eisteddfod鈥

Cefndir Background

Llwyddiant Success

Rhannu fy ngherddi Sharing my poems

Cysur Comfort

Di-Gymraeg Non Welsh speaking

Gwerthfawrogol Appreciative

Wythnos y glas Freshers Week

Cymdeithasu To socialise

GERAINT LLOYD

A phob lwc i Kayley, on鈥檇 ife, ym Mhrifysgol Bangor.
Aeth Geraint Lloyd draw i Ynys Enlli ym Mhen Ll欧n am y tro cynta yn ei fywyd wythnos diwetha, a chafodd gyfle i gyfarfod rhai o gymeriadau鈥檙 ynys.
Lle hyfryd ond unig iawn ydy Enlli heddiw, ond sut oedd hi yno yn y gorffennol tybed? Dyma鈥檙 ffermwr Gareth Roberts yn rhoi ychydig o hanes y lle i ni鈥

Blaengar iawn Very progressive

Ar un cyfnod At one time

哦d Corn

Rhwyfau Oars

Cynnyrch Produce

Yr oes honno At that time

Diweddara Most recent

DEI TOMOS

Wel pwy fydde鈥檔 meddwl mai merched Enlli oedd yn arwain byd ffasiwn Pen Ll欧n?
Mae ardaloedd llechi Gwynedd wedi dod i sylw鈥檙 byd eleni ar 么l ennill statws Safle Treftadaeth Byd Unesco.
Ond oeddech chi鈥檔 gwybod bod llawer iawn mwy i鈥檙 diwydiant llechi na chynhyrchu llechi to yn unig?
Mae Pred Hughes wedi cyhoeddi llyfr am y diwydiant ac yn y clip yma o sgwrs gafodd e gyda Dei Tomos, mae e鈥檔 s么n am y broses o enamlo , hynny yw rhoi enamel ar lechen...

Llechi Slates

Treftadaeth Heritage

Diwydiant Industry

Galwad enfawr A huge demand

Moethus Luxurious

Mwyafrif Majority

Rhiniogau Thresholds

Godidog Splendid

鈥楽ech chi鈥檔 taeru You鈥檇 swear

Plisgyn 诺y Egg shell

STIWDIO

Pred Hughes oedd hwnna鈥檔 esbonio鈥檙 broses o enamlo llechi wrth Dei Tomos.
Nos Lun ar Stiwdio cafodd Nia Roberts sgwrs gyda Arfon Haines Davies am y llyfr mae e wedi ei olygu , sef 鈥淗unanbortread David Griffiths鈥.
Mae David Griffiths yn dod yn wreiddiol o Bwllheli ac mae e鈥檔 un o artistiaid portreadau mwyaf blaenllaw Prydain.
Mae e wedi creu portreadau o lawer o enwogion dros y blynyddoedd, fel buodd Arfon yn egluro...

Blaenllaw Prominent

Brenhinol Royal

Straeon difyr Interesting stories

Braslunio Sketching

Archdderwydd Archdruid

Cynnwys To include

Diymhongar Unassuming

Prif Weithredwyr Chief Executives

Loncian Jogging

BORE COTHI

Dipyn bach o hanes yr artist David Griffiths yn fan鈥檔a gan Arfon Haines Davies.
Nesa cawn ni glywed rhan o sgwrs rhwng y gantores canu gwlad o Geredigion, Doreen Lewis a Shan Cothi, ble mae Doreen yn s么n am ei mordaith delfrydol!

Canu gwlad Country (singing)

Mordaith delfrydol Ideal cruise

Traethau aur Golden beaches

Coed palmwydd Palm trees

Naws ffwrdd 芒 hi Relaxed atmosphere

Ydy glei Ydy si诺r

Ffaelu Methu

Braint Privilege

Atgoffa To remind

SHELLEY A RHYDIAN

Doreen Lewis oedd honna鈥檔 breuddwydio am fynd yn 么l i鈥檙 Carib卯. Hyfryd!
Bob wythnos ar y Sioe Sadwrn, mae Shelley a Rhydian yn gofyn i un o enwogion Cymru gyflwyno ei anifail anwes i ni fel rhan o 鈥楥ynghrair y C诺n鈥, a dyma Eleri Sion yn ein cyflwyno ni i鈥檞 chi bach hi, Ralffi.

Cynghrair y C诺n Dog鈥檚 league

Anrhydedd Honour

Uchelael Highbrow

Ymateb To respond

Barus Greedy

Fy ngh么l i My lap

Gwiwerod Squirrels

Ei d卯n e His backside

Talent cudd Hidden talent

Toddi nghalon i Melts my heart

Wel mae Ralffi鈥檔 swnio鈥檔 gi bach bendigedig!

A dyna ni鈥檙 podlediad am wythnos arall. Ond cyn cloi, cofiwch am holl raglenni arbennig yr wythnos nesaf. Mae cwis 鈥淐ystadleu-IAITH鈥 bob dydd am hanner awr wedi deuddeg. Cyfres 鈥淐ymry newydd y cyfnod clo鈥 am hanner awr wedi chwech, a bydd bwletin newyddion arbennig bob nos am 8. Ewch i 麻豆约拍 Sounds am fwy o wybodaeth.

Diolch yn fawr am eich cwmni, a daliwch ati i wrando a siarad Cymraeg. Dw i鈥檔 lwcus mod i鈥檔 medru darlledu ar Radio Wales ac yma ar Radio Cymru. Tan y tro nesaf!

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 麻豆约拍 Radio Cymru,

Podlediad