Main content

Pigion y Dysgwyr 28ain Mai 2021

Sara Yassine, Llio Angharad, Carwyn Elllis, a Tudur Owen yn westai penblwydd

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma 鈥

BETI A'I PHOBL
Merch o Gaerdydd ydy Sara Yassine ond mae ei theulu hi鈥檔 dod o鈥檙 Aifft yn wreiddiol. Gofynnodd Beti i Sara beth mae Caerdydd yn ei olygu iddi hi

Yr Aifft - Egypt

Golygu - To mean

Trwy gydol fy mywyd - All my life

Hen dad-cu - Great-grandfather

Rhyfel Byd Cyntaf - First World War

Morwr - Seaman

GWNEUD BYWYD YN HAWS
Ychydig o hanes Sara Yassine yn fan鈥檔a ar Beti a鈥檌 Phobl
Mae hi wedi bod yn flwyddyn rhyfedd on鈥檇 yw hi? Pwy fasai wedi medru darogan fel roedd rhaid i ni gyd newid ein ffordd o fyw oherwydd Covid? Sut flwyddyn bydd eleni tybed? Dyma i chi glip o Llio Angharad, awdures y blog bwyd a theithio 鈥渄ine and disco鈥, yn ceisio darogan beth fydd y 'trends' bwyd ar gyfer gweddill y flwyddyn鈥

Darogan - To predict

Dilynwyr - Followers

Dy hynt a dy helynt di - All about you

Ail- greu - To re-create

Datblygu - To develop

Eitha poblogaidd - Quite popular

Profiadau gwahanol - Different experiences

PENBLWYDD DEWI LLWYD
Wel , tybed fyddwn ni鈥檔 gweld holl 鈥榯rends鈥 Llio Angharad yn ystod y flwyddyn? Cawn ni weld on鈥檇 ife? Mae rhaglen Tudur Owen ar Radio Cymru yn boblogaidd iawn ond mae Tudur hefyd yn hoff o wneud gwaith 鈥榮tand-up鈥. Fe oedd gwestai penbwlydd Dewi Llwyd fore Sul a soniodd e wrth Dewi am ei deimladau am fynd yn 么l ar lwyfan i berfformio鈥

Llwyfan - Stage

Cynulleidfa fyw - Live audience

Ymwybodol - Aware

Camu ar - To step onto

Ail-gychwyn - To start again

Diweddaru fy neunydd - Update my material

Am wn i - I suppose

Padl fyrddio - Paddle boarding

Mae鈥檔 llonyddu rhywun - It鈥檚 relaxing

Cydbwysedd - Balance

Cyhyrau - Muscles

ALED HUGHES
Tudur Owen yn edrych ymlaen mwy at badl fyrddio nag at fynd yn 么l i berfformio, ond dw i鈥檔 si诺r byddwn yn ei weld ar lwyfan eto cyn bo hir. Mae鈥檙 milfeddyg Malan Hughes wedi gweld llawer iawn o bethau rhyfedd wrth ei gwaith ac yn ddiweddar gwelodd hi rywbeth rhyfedd iawn 鈥 llo gyda thair llygad. Tynnodd hi lun o鈥檙 llo ac mae鈥檙 llun hwnnw wedi cael ei rannu ar draws y byd!

Milfeddyg - Vet

Gwlybaniaeth - Moisture

Y creadur - The creature

Aeiliau - Eyebrows

Amrannau - Eye lash

Pwy 芒 诺yr? - Who knows?

Penglog - Skull

Cromfachau - Brackets

Caniat芒d - Permission

Y diweddara - The most recent

DROS GINIO
Hanes llo gyda thair llygad yn fan鈥檔a 鈥 diddorol on鈥檇 ife?l
Mae鈥檔 50 mlynedd ers rhyddhau albym Marvin Gaye 鈥 Whats Going On. Y cerddor Carwyn Ellis fuodd yn s么n wrth griw Dros Ginio am bwysigrwydd yr albym yn gerddorol, ac yn wleidyddol

Rhyddhau - To release

Cerddor - Musician

Dylanwadol - Influencial

Enfawr - Huge

Cyd-destun - Context

Cefndir - Background

Hynod bwysig - Extremely important

Perthnasol - Relevant

Hiliaeth - Racism

AR Y MARC
Y cerddor Carwyn Ellis oedd hwnna鈥檔 s么n am albwm eiconig Marvin Gaye. Roedd Abertawe yn chwarae yn erbyn Barnsley ar y Liberty nos Sadwrn diwetha mewn g锚m ail-gyfle鈥檙 Bencampwriaeth. Abertawe enillodd ac ond i鈥檙 t卯m ennill un g锚m arall bydd Abertawe yn cael dyrcharfiad i鈥檙 Uwchgynghrair. Mae OJ wedi ei fagu yn Sheffield, yn ffan mawr o Barnsley ac yn dal i fyw yn yr ardal, ond sut a pham dysgodd e Gymraeg? Dyma fe鈥檔 esbonio ar Ar y Marc鈥
G锚m ail-gyfle - Play off

Y Bencampwriaeth - The Championship

Dyrchafiad - Promotion

Uwchgynghrair - The Premier League

Rheolwyr - Managers

Uniongyrchiol - Direct

Cyfleon - Opportunities

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 麻豆约拍 Radio Cymru,

Podlediad