Main content

Pigion Dysgwyr 23ain Ebrill 2021

Neil Rosser, Rhys Patchell, Nathan Brew, a Gary Slaymaker yn trafod King Kong a Gozilla

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

DEI TOMOS
Buodd y canwr o Dreforus ger Abertawe, Neil Rosser, yn sôn am un o’i ganeuon enwoca ‘Ochr Treforus o’r Dre’ gyda Dei Tomos a dyma i chi flas ar y sgwrs...

Enwoca - Most famous

Adlewyrchu - To reflect

Traddodiad - Tradition

Cynefin - Local area

Cymeriadau - Characters

Hala - To spend (time)

Magwraeth - Upbringing

Tylwyth - Teulu

Tyfu lan - Growing up

COFIO
Neil Rosser yn fan’na yn sôn am ei gân ‘Ochr Treforus o’r Dre’ . Pen Llŷn oedd pwnc Cofio yr wythnos yma – a buodd John Hardy a Hywel Gwynfryn yn edrych yn ôl ar y cyfnod pan agorwyd Butlins yn ardal Pwllheli. Cafodd Hywel sgwrs gydag un oedd yn cofio’r adeg yn dda ac yn nabod Billy Butlins yn eitha da hefyd...

Cyfnod - period

Chwedl y bobl ddŵad - According to the visitors

Gweithio’n ddiwyd - Working hard

Ail-fildio - Rebuilding

Yr oes honno - In that time

ALED HUGHES
Ychydig o hanes agor Butlins Pwllheli ar Cofio wythnos diwetha. Kong v Godzilla ydy un o ffilmiau mawr y sinema ar hyn o bryd, ac roedd barn gwahanol iawn i’w gilydd amdani gyda Gary Slaymaker ac Aled Hughes fel cawn glywed yn y clip yma...

Allet ti dyngu - You could swear

Creaduriaid - Creatures

Dogfen - Documentary

Ara bach - Slowly

Brywdro - Fighting

Chwedloniaeth - Mythology

Awch - Appetite

Torcalonnus - Heartbreaking

Cydio yn nychymyg - Catches the imagination

TRYSTAN AC EMMA
Mae’n anodd meddwl am y ffilm nawr heb ddychmygu Taid, neu dad-cu, Godzilla yn cwympo mas gyda thaid Kong mewn rhyw dafarn on’d yw hi...Ac awn ni o fyd Godzilla a Kong nawr i fyd yr UFOs. Mae llawer o bobl yn honni eu bod wedi gweld Ufo ac mae Richard Foxhall yn un ohonyn nhw. Dyma fe’n disgrifio wrth Emma a Trystan beth welodd e uwchben Dyffryn Nanllte yng Ngwynedd 40 mlynedd yn ol…

Honni - To allege

Cwympo mas - Falling out

Llu awyr - AirForce

Hofrennydd - Helicopter

Llonydd - Still

Ymarfer - Exercise

Llachar - Bright

Adennydd - Wing

Ta waeth - Anyway

FY NGHYMRU
Tybed beth welodd Richard yn Nhalysarn flynyddoedd yn ôl? Rhyfedd iawn on’d ife? Mae etholiad Senedd Cymru yn cael ei gynnal ar Fai 6ed eleni. Aeth y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, Nathan Brew, i holi barn pobl o gefndir BAME er mwyn gweld beth mae’r etholiad hwn yn ei olygu iddyn nhw...

Etholiad - Election

Cyn-chwaraewr - Former player

Rhyngwladol - International

Gwinedd (ewinedd) - Nails

Balch - Proud

Tebygrwydd - Similarity

Ysbrydoliaeth - Inspitration

Uniaethu - To identify (with)

BETI GEORGE
Arhoswn ni gyda chwaraewyr rygbi rhyngwladol yn y clip nesa ‘ma. Buodd Beti George yn sgwrsio gyda Rhys Patchell, ac roedd gan Beti ddiddordeb mawr mewn beth mae Rhys a’i gyd-athletwyr yn ei fwyta er mwyn cadw’n heini

Cyd-athletwyr - Fellow athletes

Darparu - To provide

Amcan - Estimate

Llaeth - Llefrith

Claddu - To bury

Cyffredin - Normal

Cyhyrau - Muscles

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad