Main content

Pigion Dysgwyr 9fed Ebrill 2021

Owain Fôn Williams, Sioned Dafydd, Dr Anwen Jones a cwmni blodau mam a merch o Landeilo

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …

DROS FRECWAST

Chris Gunter ydy’r chwaraewr cyntaf yn hanes tîm pêl-droed Cymru i ennill cant o gapiau yn dilyn y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Mecsico wythnos diwetha.
Mae cyn-golwr Cymru, Owain Fôn Williams, yn arlunydd da ac mae o wedi peintio llun arbennig i Chris i ddathlu’r achlysur. Dyma i chi Owain yn sgwrsio gydag Owain Llyr o adran chwaraeon Radio Cymru ar Dros Frecwast.

Arlunydd - Artist

Yn y gorffennol - In the past

Digon hawdd - Easy enough

Canfed - Hundredth

Cais - Request

Newydd sbon - Brand new

Creu - To create

Ei ên - His chin

Sbïo - Edrych

Cyfnod - a period of time

SIOE SADWRN

…a llongyfarchiadau mawr i Chris Gunter am ennill ei ganfed cap yn y gêm rhwng Cymru a Mecsico. Roedd hon yn gêm bwysig i Sioned Dafydd hefyd – y tro cynta iddi hi sylwebu’n fyw ar S4C ar gêm bêl-droed Cymru. Mae Sioned hefyd wedi dechrau podlediad pêl-droed newydd, Y Naw Deg, ar y cyd â chyflwynydd y Sioe Sadwrn – Rhydian Bowen Phillips. Buodd y ddau’n sgwrsio am hyn ac am gêm Mecsico ar y Sioe Sadwrn…

Sylwebu’n fyw - Commentating live

Ar y cyd â - Together with

Cyflwynydd - Presenter

Gwlad Belg - Belgium

Joio mas draw - Mwynhau yn fawr

Cyfres - Series

Pob agwedd - All aspects

Uwch Gynghrair Lloegr - English Premier League

Criw cynhyrchu - Production team

Hala - Anfon

Ymchwil - Research

GWNEUD BYWYD YN HAWS

…ac enillodd Cymru’r gêm honno o un gôl i ddim a Chris Gunter yn gapten ar y tîm! Capten tîm rygbi Cymru ydy Alun Wyn Jones ac mae ei wraig, y Dr Anwen Jones, wedi sefydlu blog o’r enw The Jones Essential ar ôl iddi hi benderfynu cymryd saib gyrfa yn dilyn cyfnod mamolaeth. Dyma hi’n esbonio rhai o’r rhesymau dros gymryd y saib ar Gwneud Bywyd yn Haws…

Saib gyrfa - A career break

Cyfnod mamolaeth - Maternity leave

Uwch ddarlithydd - Senior lecturer

Gradd meistr - Masters degree

Doethuriaeth - PhD

Dod i ben - Come to an end

Heriol - Challenging

TROI’R TIR

Dr Anwen Jones oedd honna’n esbonio pam ei bod hi wedi cymryd saib yn ei gyrfa.
Hanes Ffion Medi a'i mam Mairwen Rees o Lanfynydd ger Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin sydd nesa. Mae’r ddwy wedi dechrau cwmni gosod blodau o’r enw ‘Sied yr Ardd’yn ystod y cyfnod clo. Ond pwy o’r ddwy ydy’r bòs tybed?

Gosod blodau - Flower arranging

Fferm odro - Dairy farm

Å´yna - Lambing

Cenhedlaeth - Generation

Ffair Aeaf Rithiol - Virtual Winter Fair

Cyfryngau cymdeithasol - Social media

Torchau - Wreaths

Archebu - To order

Deilen - A leaf

FFION EMYR

Mae’n amlwg mai Mam ydy’r bòs on’d yw hi? Ar raglen Ffion Emyr nos Wener, clywon ni am briodas arbennig Celyn a’i gŵr, Owen, o Gasnewydd, ond pam bod Dr Who yn rhan o’r stori yma? Dyma Celyn yn rhoi’r hanes...

Goleudy - Lighthouse

Llai traddodiadol - Less traditional

Casnewydd - Newport

Cwympo mewn cariad - To fall in love

Dw i’n cymryd - I assume

Darpar ŵr - Prospective husband

Dadwisgo - To undress

Anhygoel - Incredible

Sa i’n gwybod - Dw i ddim yn gwybod

TRYSTAN AC EMMA

Tardis mewn priodas yng Ngwent, pwy fasai’n meddwl on’d ife? Nid hen focs plismon fel y Tardis ydy diddordeb mawr Dai Mason ond hen geir, a buodd e’n rhestru’r holl geir sy yn ei garej mewn sgwrs gyda Trystan ac Emma. Dyma i chi flas ar y sgwrs…

Y chwedegau - The sixties

Llai pwerus - Less powerful

Yn ddiweddar iawn - Very recently

Eitha balch - Quite proud

Hen dad-cu - Great grandfather

Cyflwr gwael - Poor condition

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad