Main content

Geraint Lovgreen - Bardd y Mis - mis Hydref

Bardd y mis

Bardd y mis?
O, c’mon, plîs!
does gena’i’m y ddawn
i farddoni’n iawn
mewn cynghanedd sain,
cyflythrennu cain
creu delweddau hardd
achos dwi’m yn fardd!
Dwi ’di deud o’r blaen
dwi ddim isio’r straen
o fod yn fardd go iawn
hyd yn oed am bnawn,
felly pam dwi yma
fel rhyw fardd drama?
rhigymwr ydw i
limrigwr o fri
go lew efo geirie
ond sgena’i’m cadeirie
’blaw rhai o siop Perkins
ac un nes i’n woodwork, un
sy gen i ers oes
efo dim ond tair coes.
a sgenna’i ddim coron a
gen i ofn y corona
feirws, dwi heb fynd
i le’m byd, heb weld ffrind
na neb arall ers oes pys
a does gena’i ddim brys
i neud, chwaith, ond am hynny
sgenna’i’m byd i sgwennu
mond deud ac ailadrodd
NAD bardd mohonof!

Geraint Lovgreen

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o