Main content

Bore Sul - Geraint Lovgreen

Bore Sul

Mae’n fore Sul yn Nulyn
ond di rwbeth ddim yn iawn;
mi ddylwn i fod yno
efo peint o Ginis llawn
ar ôl hwylio o Gaergybi
i hud yr Ynys Werdd:
ond dyma fi yn styc yn tÅ·
yn trio sgwennu cerdd.

Mae Joe’n absennol hefyd,
’di Gareth Bale ddim ’ma,
Hal Robson Kanu heb ddod chwaith
so dwi mewn cwmni da.
Gartref fyddwn ni bob un
yn gaeth o flaen y teli
i wylio gêm efo llai o dorf
ond rywsut, mwy o beli.

Achos er nad oes cefnogwyr,
pob enaid byw yn banned,
mae’n rhaid ’nw gael pêl newydd
bob tro eith un i’r stand
rhag ofn bod y feirws
yn stelcian yn rhes O
yn aros am gic ceffyl
gan droed chwith Kieffer Moore.

Ta waeth, nôl at y ffwti,
mae heddiw yn gêm fawr
ddim fatha’r nonsens ’na nos Iau:
ma’i mlaen mewn pedair awr
Mae’r ddraig goch ar y piano
ac mae’r cyrtens wedi’u cau
a’r ornest dyngedfennol ar
S Pedwar C am ddau.

Ac felly ar y Saboth,
gweddïwn am dair gôl
a diolch wnawn i’r Arglwydd mawr
fod Aaron Ramsey’n ôl!

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

8 o funudau

Daw'r clip hwn o