Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 13eg 2020

Uchafwbyntiau yr Wyl Amgen. Rhys Ifans, Stifyn Parry, Gwawr Edwards Toda Ogunbanwo a mwy

Doedd dim Eisteddfod Genedlaethol eleni ond mi fyddwn ni’n edrych yn ôl ar Ŵyl AmGen Radio Cymru ar Pigion yr wythnos yma

Mae hi’n draddodiad i gael cywydd croeso i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal bob blwyddyn. Wrth gwrs mae pethau’n wahanol eleni ond ysgrifennodd y bardd Ceri Wyn Jones gywydd croeso i’r Eisteddfodd AmGen a dyma hi i chi…

Amgen Alternative

Bardd Poet

Cywydd Croeso A poem to welcome the Eisteddfod

Cerdd Poem

Sbort Fun

Adeg anghyffredin Unusual period

Er nad oedd yr Eisteddfod yn debyg i’r un dyn ni wedi arfer â hi , mae’r dysgwyr yn dal i gael lle pwysig iawn yn yr Eisteddfod AmGen. Dros y penwythnos cyhoeddodd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn a dyma i chi Dona Lewis o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn darllen y feiriniadaeth ar ran y tri beirniad…

Cyhoeddi To announce

Beirniadaeth Adjudication

Ein hysbrydoli Inspiring us

Rownd derfynol Final

Eu hymdrechion Their efforts

Wedi dod i’r brig To have won

Cyfweliad Interview

Mam-gu Nain

Prin oedd y cyfle The opportunity was rare

Cyfleoedd Opportunities

Er mwyn ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn roedd yn rhaid i’r 5 oedd ar y rhestr fer gynnal sgwrs radio gyda Shan Cothi, a dyma flas i chi ar sgwrs Jazz gyda Shan

Rhestr fer Short list
Yn falch Proud

Teimlo’n euog Feeling guilty

Cymdeithasu To socialise

Cyfrwng Saesneg English medium

Safonau Standards

Cwympo To fall

Cyd-lynydd Co-ordinator

Yn gyfrifol am Responsible for

Datblygiadau pwnc Subject developments

Y dwlu ar To dote on

Mae’r gantores Gwawr Edwards wedi ennill 2 o brif wobrau canu’r Eisteddfod Genedlaethol yn y gorffennol a dyma hi’n sôn am sut oedd hynny wedi helpu ei gyrfa fel cantores broffesiynol

Ysgoloriaeth Scholarship

Cystadleuaeth Competition

Ta beth Anyway

Cynhyrfu To stir

Llawn cystal siawns As good a chance as any

Ar fin mynd About to go

Braint o’r mwya The greatest honour

Pluen yn fy nghap A feather in my cap

Ymfalchïo To take pride in

Gofynodd Shan Cothi i Stifyn Parri wobrwyo 3 pherson sy’n haeddu tlws eisteddfodol arbennig iawn – Tlws Steddfod Stifyn – a dyma pwy benderfynodd Stifyn oedd yn dod i’r brig…

Tlws Trophy

Beiriniadu To adjudicate

(fy) ngên yn syrthio My jaw dropping

Crio Llefain

Yn ddiweddarach Later

Llorio To floor

Creu cerddoriaeth Creating music

Beichio crio Crying my eyes out

Toda Ogunbanwo oedd yn rhoi araith Llywydd y Dydd Eisteddfod AmGen ddydd Gwener. Symudodd Toda Ogunbanwo, sy’n ugain oed, i Benygroes yng Ngwynedd o Harlow yn Essex pan oedd yn 7 mlwydd oed. Ym mis Mehefin eleni paentiodd rhywun swastica ar ddrws garej y teulu ym Mhenygroes. Roedd hyn yn sioc i lawer o bobl gan ei fod wedi digwydd mewn pentre bach Cymraeg ei iaith. Ond fel mae Toda yn dweud yn ei araith fel Llywydd, mae hiliaeth i’w chael ym mhobman

Araith Llywydd y Dydd The President of the Day’s address

Coelio Credu

Datrysiad Resolution

Canran fawr A large percentage

Esgusodi ei hun Excusing himself

Caethweision Slaves

Nad ydy hiliaeth yn bodoli That racism doesn’t exist

Casineb Hate

Diwylliannau Cultures

Lleiafrif Minority

Mae’r actor Rhys Ifans wedi treulio‘r cyfnod clo yn Llundain, a dyma fe’n rhoi syniad i ni o sut brofiad oedd bod dan glo yn y ddinas fawr dros y misoedd diwetha…

Dan glo Locked down

Profiad Experience

Dilys Valid

Yn benodol Specifically

Wneith o atseinio It will resonate

Wnaeth o (fy) nharo It struck me

Roedd y gwynt yn fy nghyffwrdd i The wind was touching me

Anwes A caress

Wel, dych chi wedi cael blas ar Å´yl AmGen Rdio Cymru yn fan’na ond cofiwch bod POPETH o’r Å´yl i’w glywed ar Â鶹ԼÅÄ SOUNDS felly gallwch chi fynd yn ôl i wrando ar unrhyw beth, unrhyw bryd.

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad