Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 24ain 2020

Sioe Fawr Shan Cothi, byw heb blastig, tatws rost perffaith a hanes cwmni Tanya Whitebits

Beti George ac Aled Roberts
Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, oedd gwestai Beti George wythnos diwetha'. Cafodd Aled ei fagu yn Rhosllannerchrugog, oedd yn bentref Cymraeg ei iaith ger Wrecsam. Mae gan bobl Rhos acen arbennig iawn ond fel ddwedodd Aled wrth Beti, doedd hynny ddim yn fantais bob tro...

Mantais advantage

Ar eich tyfiant growing up

Swydd allweddol a key job

Diogelu to protect

Hwyrach maybe

Pwysau pressure

Profiad experience

Ifan Evans a Sara Gibson
Daeth y newyddiadurwraig Sara Gibson i ymuno ag Ifan Evans ddydd Mercher i sôn am rai o straeon mwya poblogaidd Cymru Fyw, ond yn y clip nesa mae hi’n rhoi hanes her ffotograffiaeth arbennig iawn..

Her challenge

Y cyfnod clo lockdown

Sefydlu to establish

Sathru to trample

Cywrain skillful

Cofnod a record

Bord bwrdd

Pwerus iawn very powerful

Byw Heb Blastig
Mae defnyddio llai o blastig yn cael ei gyfri’n un o’r heriau pwysica o ran achub y blaned. Ydych chi wedi lleihau eich defnydd o blastig yn y blynyddoedd diwetha? Ffion Francis oedd un o westeion Shan Cothi ddydd Mawrth, a buodd hi’n rhoi cyngor am y pethau bychain gallwn ni i gyd eu gwneud i wella’r sefyllfa..

Achub y blaned saving the planet

Lleihau reduce

Cyngor advice

Ail-lenwi to refill

Osgoi to avoid

Tatws Rhost Perffaith
Mae Dafydd a Caryl yn cyflwyno’r Sioe Frecwast ar Radio Cymru 2 – ac mae’n rhaid i’r ddau godi gynnar , felly dydy hi ddim yn syndod eu bod yn licio siarad am fwyd! Yr wythnos yma, roedd Caryl eisiau rhannu tips coginio gyda Daf - a dyma’r ffordd orau o goginio tatws rhost mae’n debyg!

Saim y cig the meat’s rendered fat

Twymo to heat

Ymddangos to appear

Gwefannau cymdeithasol social media

Mêl honey

Cwmni Tanya Whitebits
Sioned Owen ydy’r enw – a’r brens – y tu ôl i’r cwmni lliw haul ffug llwyddiannus Tanya Whitebits. Jennifer Jones gafodd hanes y cwmni a’r entrepeneur o Drefor yng Ngwynedd ar Dros Ginio yr wythnos hon..

Ffug fake

Y peryglon the dangers

Heneiddio ‘r croen ageing the skin

Efeilliaid twins

Ariannu to finance

Cymwysterau qualifications

Mynychu to attend

Cynnyrch product

Symudol mobile

Drewllyd smelly

Datblygu to develop

Lisa Gwilym a Shan Cothi
Gan fod Huw Stephens ar ei wyliau, Lisa Gwilym oedd yn cyflwyno Sioe Frecwast Radio Cymru 2 fore Gwener. Shan Cothi oedd ei gwestai a phenderfynodd Lisa ofyn ychydig o gwestiynau Cocadwdl-do iddi!....

Ydw glei of course I have

Nefoedd wen Oh heavens!

Yn gyfarwydd â familiar with

Amrywio to vary

Bant â ti away you go

Yn glou quickly

Fel y cythraul like the devil

Delwedd image

Sa i’n.. dw i ddim yn..

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru,

Podlediad