Main content

Casia Wiliam - Bardd y Mis - Symud tÅ·

Symud tÅ·
Am y canfed tro.

Hel, codi, lapio, stwffio,
plygu corneli ein bywyd eto
nes bod y cwbl yn ffitio mewn bocs.

Dal i fynd nes bod llond tÅ·
yn ddim ond llond fan.
Holl swmp ein dyddiau prysur
yn swatio’n dawel
a ninnau fel crancod
yn diosg ein cregyn.

Awn yn nes at y môr y tro hwn.

Teimlwn heli’r gwynt yn
goglais ein cefnau noeth

a chyn mentro wysg ein hochra
i adra newydd,
awn am eis crîm.

Yna, syllwn ar y bocsys,
heb syniad beth sydd ynddynt
a gweld ein hunain yn hurt.

Ai ni bia popeth?

Ein bywydau ni yw’r rhain, go iawn?

Ond mae’n fater o raid, felly dyma gychwyn
clirio a threfnu a chadw a gosod
a thwtio ein bywyd eto
nes bod y cwbl yn chwyddo
i ffitio’r gragen hon

a ninnau’n anghofio cyn pen dim
am y bobl oedden ni’r
diwrnod hwnnw,

y siâp oedd arna ni
heb ddim, ond hufen iâ mewn llaw.

Casia Wiliam

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau

Daw'r clip hwn o