Main content

Geraint Robets - Bardd y Mis yn colli gweld ei wyrion

FaceTime gyda’r Wyrion

Ebrill 22ain, 2020

‘Helo! Helo!’ Clywaf lais,
anadlu, yna’r adlais,
deialwyd y llun deulais.

O’r awr unig ar ynys,
ar wib af wrth wasgu’r bys
i’r seiat mor groesawus.

A’u neges ddaeth o’r gegin,
sŵn anferth, yna chwerthin
a rhyw sgrech ar draws y sgrîn.

Wedyn fe ddaeth yr uniad,
ŵyr a’i lun o ben draw’r wlad
â’i oriau yn ei siarad.

Daeth hanes ein hwyres ni
â iaith Sam Tân amdani,
a’r wên, a ni’n gwirioni.

Er mor bell ydynt bellach,
eto mae’r sgrîn yn lletach,
yn gysur sy’n agosach.

Yn agos mae’r ddau begwn
a diogel y gwelwn
byw i’r llun yw’r Ebrill hwn;

wyrion a’r cyfrineiriau,
yr heniaith a’r rhestr enwau,
camau’r rhain drwy’r camerâu.

Os bwgan yw’r gwahanu,
yna toc, daw gwên i’r tŷ,
mae’n haws i mi ynysu.

Wedi ffenest i-ffonio,
wedi’r haf, wedi’r hen dro,
awn atynt unwaith eto.

Geraint Roberts

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o