Main content

Cerdd Siop Griffiths gan Karen Owen - Bardd mis Mawrth

Cerdd gan Karen Owen am Siop Griffiths ym Mhenygroes, siop oedd yn gwerthu popeth dan haul

SIOP GRIFFITHS

dw i'n ôl wrth y cowntar, ac mae'r list yn hir -
dw i isio sosban, a phowlan Pyrex glir,
un cwpan a sosar patrwm bloda mån,
sacha duon a doilis a chlamp o raw dân;

gwell cael pen i'r mop, cyn eith hi'n rhy hwyr,
a Brasso, a blocyn o bolish cwyr,
ga'i focsaid o wenwyn i ladd llygod mawr,
a choes hir, newydd i'r hen frwsh llawr;

bracet dal llun, ac ornament,
un trywal i'r ardd, a micsiad o sment;
tun hanner galwyn o breimar, a ffiws,
a dwy, naci tair... na, pedair o sgriws;

dwy rôl Anaglypta, a bagiad o bast,
ac ma'n well bachu u-bend i'r beipan wast;
ga'i garna i'r cyllyll, ga'i gannwyll a llwy,
ga'i fun heb olwynion, a chanistr nwy;

å'i drwadd o'r siop i wâl yn y cefn,
am gwaral o wydr nain bai sefn,
a thra ydw i yma, ga' i yndyrcôt du
a phwys a hanner o bwti cry';

un blëd wedi'i lapio'n y Daily Post,
tair llathan o gêbl heb boeni am y gost,
deg troedfadd o raffan i'w chlymu hi'n dynn,
chwe socet, a bylbia i'w cadw ynghynn.

mi ro'n nhw pob goriad sy'n gam trwy y feis,
a thorri fy hardbord i'r union seis;
rhoi min ar y cryman a saim yn y clo,
a phetrol tw-strôc yn yr hofyr-mo...

ac fel'na yr oedd hi, ac felly y cawn,
pan oedd mynd ar Siop Griffiths, a'i silffoedd yn llawn.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o