Main content

Llyfr adar mawr y plant Onwy Gower

50 o adar sydd i'w gweld yng Nghymru

Mae Onwy yn 10 mlwydd oed. Dyma ei llyfr cyntaf.

Sgwrs rhwng Gerallt Pennant a Onwy Gower a Ffion Gwyn yr artist.

Meddai Onwy:
鈥淩oeddwn am ysgrifennu llyfr byddai鈥檔 apelio i blant, oherwydd dydy oedolion ddim yn deall yn hollol beth rydyn ni鈥檔 mwynhau darllen a pha ffeithiau rydyn ni am wybod!鈥

Mae pob aderyn gyda dwy dudalen o luniau, gan gynnwys ffotograffau a lluniau wedi eu comisiynu鈥檔 arbennig ar gyfer y gyfrol gan yr artist o Ogledd Cymru, Ffion Gwyn. Ceir hefyd ffeithiau megis maint, cynefin a bwyd yr adar, disgrifiad, mis-o-metr, Ffeithiau Ffab a geirfa. Bydd yn cynnwys pennill am bob aderyn, rhai wedi鈥檜 hysgrifennu gan Onwy a鈥檌 thad, Jon Gower, a rhai cerddi sy鈥檔 bodoli eisoes gan feirdd fel T. Llew Jones.

鈥淒echreuais wylio adar pan ges i fy minociwlars cyntaf yn 2016, ac ers hynny rwyf hefyd wedi derbyn telesgop gwych yn anrheg gan Graham, g诺r Llio Rhydderch, y delynores. Rwy鈥檔 mynd i wylio adar gyda fy nhad, yn enwedig ym Mhenclacwydd ger Llanelli, sef fy hoff le i fynd i edrych ar hwyaid a gwyddau, ac adar eraill sy鈥檔 hoffi byw yn y d诺r,鈥 meddai Onwy. 鈥淔y hoff aderyn yw鈥檙 sigl-di-gwt, oherwydd mae鈥檔 ddoniol i wylio gan ei fod yn siglo ei gynffon drwy鈥檙 amser. Mae Llyfr Adar Mawr y Plant yn llawn ffeithiau. Fy hoff ffaith am aderyn yw un am y robin goch. Yn yr hen ddyddiau roedd glowyr yn credu os oedden nhw鈥檔 gweld aderyn gwyllt dan ddaear byddai rhywbeth gwael yn digwydd. Gwelwyd robin goch dan ddaear tair gwaith, a bob tro fe wnaeth trychineb ddigwydd yn fuan wedyn.鈥

Meddai Iolo Williams:
鈥淎r adeg pan rydym, yn anffodus, yn colli llawer o鈥檔 geirfa byd natur yn Gymraeg, mae鈥檙 llyfr yma yn sicr yn mynd i helpu i ddod 芒 byd yr adar yn amlwg unwaith eto. Mae hwn yn llyfr amserol tu hwnt.鈥

Mae Onwy Gower yn ferch i鈥檙 awdur Jon Gower. Mae Ffion Gwyn yn byw yng Nghricieth ac mae ei chelf wedi ei ysbrydoli gan natur. Olwen Fowler sydd wedi dylunio鈥檙 gyfrol hardd.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

4 o funudau

Daw'r clip hwn o