Rufus Mufasa - Manteision y Maverick
Cerdd gan Rufus Mufasa yn ei chyfnod fel Bardd y Mis
Manteision y Maverick
Pe bai Rhys Mwyn yn ysgrifennu llythyr ataf
Bydd yn swnio rhywbeth fel hyn...
Rufus, os ti'n gwybod beth ti'n dod i'r bwrdd
Paid ofni bwyta ar ben dy hun
Mae'r sefyllfa ddim wastod yn teimlo'n barchus
Ond Rufus, ti'n rhydd.
Ar dy taith trwy'r byd, gyda'r pen sgwennu mewn llaw
Cadw dy weledigaeth yn glir a phur.
Rufus, ateb yr alwad i Ewrop
Cer i Indonesia, a ateb yr alwad i weddi
Boddi mewn ieithoedd bodorol
A dere adref i anrhydeddu dy un di.
Rufus, ateb alwad Llwyd Owen
Mae ganddo gliwiau a allweddi ar gyfer dy gwest.
Rufus, cer i Gwyl Y Gelli
Dal nol y dagrau, cymera pob dim mewn
A creda bob gair mae Gareth Evans Jones yn ei ddweud
A bydd Julie Richards yn credu dy air di
Ac yn ddangos i ti werddon gwych newydd....
A paid colli cwsg dros y boi arall sydd am i ti rhoi lan dy enw...
Cofia Trefforest 2001
Llawn Nigeria, India, Yr Aifft, Bahrain
Cofia y diwylliannau
Dy grud di pan wnest ti grio dy hun i gysgu...
Cofia dy fedydd...
Mae'r llinellau rhwng y chwith a'r dde ddim yn glir rhagor... Ac mae dy greddf yn frawychus
Rufus, teithia i Ty Newydd
Mae Lloyd George yn aros
Fydd Jon Gower yn rhoi dealldwriaeth newydd i ti
A byddwch chi'n dawnsio gyda'ch gilydd trwy strydoedd Llanelli
A bydd y Duwiau yn ail gyflwyno Shane Williams, a'r cymoedd a'i cododd...
Rufus, rhoddon nhw pen i ti cyn i ti gyrraedd
Ni all neb yn y deyrnas hon dynnu hynny oddi wrthot ti.
Cadw hyn mewn cof ar y diwrnodau caled
Ar y diwrnodau mae drws y Castell yn cau yn dy wyneb...
A cofia, mae'r porthorion yn gwneud ffafrau enfawr i ti
Bydd yn ddiolchgar, am hyfforddiant y rhyfelwyr dwys...
A cadwa gopiau o'r mapiau
A'u pasio i lawr yr ysgol
Achos ni di cael ein magu
Gan elfennau Punk a Hip Hop
Ar ethos sy'n ein huno
Yw bod "pob un yn dysgu un"
A does dim byd ail-ddosbarth am hynny...
Rufus Mufasa
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Tachwedd 2019 - Rufus Mufasa—Gwybodaeth
Rufus Mufasa yw bardd Radio Cymru ar gyfer Tachwedd 2019.
Mwy o glipiau Bardd y Mis - Rufus Mufasa
-
Rufus Mufasa - Bardd Y Mis
Hyd: 15:48
Mwy o glipiau Rhys Mwyn
-
Gruff Rhys a ffilm newydd am Ffa Coffi Pawb
Hyd: 10:03
-
Hyrwyddo bandiau drwy Fenter Iaith
Hyd: 04:22
-
Glen Matlock a'i fand yn gigio yng Nghymru
Hyd: 05:04