Ar ddiwrnod olaf blwyddyn ysgol arall
Mae blwyddyn arall 'di gwibio heibio,
a dillad a sgidia y plantos 'di shrincio.
Pawb yn ffarwelio am hoe fach haeddiannol:
gyda chwtsh neu bawen lawen, am adra o'r ysgol.
Athrawon, ddisgyblion, mae hon i chi,
am weithio mor galed am fsoedd di-ri -
'da chi gyd yn sêr, bob un wan jac,
felly ffich i'r wisg ysgol a chodwch eich pac!
Mae Steddfod Llanrwst, Sioe Môn, a lan-môr
yn galw amdanoch, da chi'n gwbod y sgôr:
joiwch, ymlaciwch, bwytwch, trochwch
yn heulwen fs Awst a llawen y byddwch.
Ac er fod pob rhiant pryderus yn gwbod
fod chwech wsos yn hir heb strwythur i'r diwrnod,
bydd mis Medi ar ein trothwy cyn i ni droi,
felly bloeddiwn HWRÊ fod drws ysgol yn cloi!
Manon Awst
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Gorffennaf 2019 - Manon Awst—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymru ar gyfer Gorffennaf 2019 yw Manon Awst.
Mwy o glipiau Aled Hughes
-
Llyfr Sgwrs Dan y Lloer
Hyd: 10:08
-
Nadolig yn Awstralia
Hyd: 07:45
-
Apêl oesol dramâu Shakespeare
Hyd: 09:17
-
Panad, paned, dishgled...
Hyd: 07:35