Main content
Manon Awst - Breuddwydion pebble-dash
Rhed, paid ag edrych
ar y maes domestig
a'i wyneb pebble-dash.
Glyna dy drwyn i'r ffΓ΄n
fel rhyw drΓ΄n yn mynd am dro.
Ar draws y maes llwyd
mewn ffrog no-ffrils
ti'n cysgu - watscha ddisgyn!
Y croen sych ar dy gefn
fel plisgyn
a'r bargeinion yn hel
yn nyfnderoedd dy fag plastig.
Does na'm amser am goff
ac mae popeth ar y stryd 'di arafu
i stop,
y shutters ar gau ar ffenest pob siop.
Dy amser di'n llifo'n wag fel newsfeed,
a phopeth yn teimlo'n stici,
yn llethol o ddi-hid.
Ond mae'r pebble-dash yn tyfu fesul milltir,
yn cydio fel sment
am dy freuddwydion.
- Manon Awst
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Gorffennaf 2019 - Manon Awst—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymru ar gyfer Gorffennaf 2019 yw Manon Awst.
Mwy o glipiau 10/07/2019
-
Manon Awst ar raglen Lisa Gwilym
Hyd: 14:14