Main content

Aneirin Karadog - Sial贸ts

Aneirin Karadog yn trafod Sial贸ts yng nghefn gwlad Llydaw

(ni all ysgolion cyfrwng Llydaweg Diwan oroesi heb ymdrechion cyson gan rieni a chymdeithasau i godi arian ac yn ddiweddar un ffordd o godi arian oedd drwy dyfu sial贸ts)

I鈥檙 cae cyrhaedda鈥檙 tractor
芒鈥檙 tir i鈥檞 fraenaru `to;
mae dosbarth yn ailagor
`r么l gwyliau hir dan glo.

Daw plant lle bu plant o鈥檜 blaen
dymor ar dymor yn dod,
a haid o wylanod a brain
i wledda ym mwyty鈥檙 rhod.

Nid yn lifrai y Llydaweg
y daw鈥檙 gweithwyr tir drwy鈥檙 glaw,
ond gosod amod fel dameg
i gadw chwyn y Ffrangeg draw

a wneir yn Diwan o hyd
fel y rhesi cledrau du,
y rhesi plastig sy鈥檔 grud
i鈥檙 sial贸ts gael tyfu鈥檔 ffri.

Nawr fe dyf y rhain yn drwch,
yn filoedd o bennau iach,
lle `slawer dydd bu dim ond llwch
mewn cae a deimlai mor fach.

Y pennau iach hyn, bob un,
cnydau cyfoethog o hyd,
pan ddaw鈥檙 gloch bob bore llun,
sy鈥檔 cyfoethogi ein byd.

A鈥檜 c芒n nhw yw鈥檙 cynhaeaf,
pan ddaw eto鈥檙 gweithwyr tir
i gasglu drwy fis Gorffennaf,
geiniogau o elw, wir.

Bu colli tir ac nawr ni thyf
yr iaith fel gwn芒i, ond sdim ots!
Fe ddaw鈥檙 Llydaweg n么l yn gryf,
maes o law, drwy鈥檙 holl sial贸ts.

Aneirin Karadog

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

10 o funudau

Daw'r clip hwn o