Main content

Llydaẅr Go Iawn

Llydaẅr Go Iawn

Ga’ i fod yn Llydaẅr go iawn
nad yw’n drysu rhwng ei Le na’i La
wrth dalu am droli llawn o Ffrangeg
yn yr archfarchnad leol?

Ga’ i fod yn Llydaẅr go iawn
sy’n enwi ei gi yn gwenn ha du
ac a garia garlwm ar ei galon
i bobman, yn ŵr balch?

Ga’ i fod yn Llydaẅr go iawn
sy’n lico halen yn ei fenyn
a menyn ar bob dim? Ga’ i?

Ga’ i fod yn Llydaẅr go iawn
sydd mor gartrefol ar dractor
mewn cae shalots ag yw e â gwymon
at ei geseilau wrth hela abelonis?

Ga’ i fod yn Llydaẅr go iawn
os oes gen i winwns ar y wal
a gŵn nos breton streips?
(ail-ddychmygiad Jean Paul Gautier, wrth gwrs.)

Ond os dechreua i siarad yr iaith ryfedd yna
sydd wedi ffosileiddio yn ein cyfenwau
yn Queginer, Dantec, Tanguy a Caradec;
os dechreua i siarad yr hen eiriau yna
y dywedodd tad-kozh nad oedd
mwy o werth iddyn nhw na’r tatws yn y pridd
ac arddel yr iaith a aeth ac a ddaeth o ddyddiau’r Gododdin
ac sy’n dal i guddio mewn ambell gilfach,
ga’ i fod yn Llydaẅr go iawn?

Aneirin Karadog

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Dan sylw yn...