Main content

Megan Elenid Lewis - Bardd Y Mis - Chwefror 2019

Y Bugeilgi

Nid gwastatir undonog fu fy mywyd,
cefais sawl haf, a sawl gaeaf hefyd.

Ro'n i'n un o wyth, yn un o blant bach Mam,
tyfasom bob un, a mynd fesul cam

i ddilyn trwyn a gosod seiliau i'n taith,
dewisais innau rug y mynydd maith.

Dofais fy nghlust i'r "Sa allan" a'r "Gorwedd"
a dilyn pellter chwiban ar lechwedd.

Rhedwn ar alwad i grynhoi pob dafad
a'u hel i'r clôs, gan deimlo fel ceidwad

ar ddiwrnod cneifio, pan grasai'r haul y tir
a minnau'n meddwi yn nŵr y nant glir.

Ond daeth yr eira a'r cesair yn eu tro
yn daranau gwewyr i fwrw'n bro

a diflanais innau dan y niwlen drom,
gan golli fy ffordd, a mawr oedd fy siom

wrth weld un iau yn dal yr awenau,
yn herio'r hen dir, a'm llwybrau innau.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud