Main content

Rap Parti Dolig Radio Cymru - Ed Holden, Bardd y Mis

Parti Dolig Radio Cymru

Checiwch y cloc,
clowch y swyddfa.
Gorffennwch yn gynnar,
mae’n amser chwalfa.
Unwaith y flwyddyn
mae’n mynd yn flêr,
ma’ criw Radio Cymru
allan yn y dre.
O’r Anglesey Arms,
i’r Black Boy Inn,
Morgan Lloyd am
beint a gin.
Ship n Cas,
wedyn bar bach,
canol y maes,
neb yn cael strach.
Ond dechra slofi -
angen bwyta
kebab a chips ond
Neb yn mynd adra,
pawb yn llawn egni,
mwy o ddrama.
Barod am fwy,
syth i’r Copa.
Shots all round,
a canu fel côr.
Allan o diwn
ar y dancefloor.
Anghofiwch bob dim -
dyna y stori.
Fydd ’na neb
Yn Radio Cymru fory.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

41 eiliad

Daw'r clip hwn o