Myfyrdod Millennial - Beth Celyn, Bardd y Mis
Myfyrdod Millennial
Sut mae mesur y blynyddoedd?
Yn y nosweithiau nad ydan ni’n cofio
wrth i ni rolio, yfed a dawnsio
‘nes bod y wawr yn ymestyn
dros y gorwel,
a’r nos yn moesymgrymu
i ddiwrnod newydd?
Neu ym maint ein camau -
llewyrch ein llwyddiannau
wrth i ni redeg yn gynt a chynt,
yn uwch ac yn uwch,
heb wybod i ble ‘da ni’n mynd
na pham mor hir y medrwn ni ddal ati?
‘Da ni gyd isio pefrio,
ond hawdd anghofio
ein bod ni oll yn llwch
yn nwylo serog y bydysawd.
Sut i gadw’r tân yn fyw sy’n bwysig,
heb losgi ein hunain, nac eraill,
ac i ddisgleirio hyd yn oed pan mae’r fflam
wedi pylu, a’n disgleirdeb
yn ddim ond atgof
yn awyr y nos,
yn moesymgrymu
i ddyddiau newydd.
Beth Celyn
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Hydref 2018 - Beth Celyn—Gwybodaeth
Bardd Radio Cymru ar gyfer mis Hydref 2018 yw Beth Celyn.