Main content

Annwyl Evangeline

Annwyl Evangeline

Annwyl Evangeline, dwi’n teimlo’n flin.
Mae pawb yn ymddangos i fyw drwy eu sgrin!
A dwi’m yn siŵr sut i fyw a bod
pan mae pawb - o hyd - yn chwilio am glod.

Waeth heb i mi beidio â gneud dim byd
os nad ydw i’n rhannu â phawb o hyd.
Yn enwedig os ydw i ben fy hun.
’Nes i hyd yn oed ’neud o os does ‘na’m llun!?

Weithiau dwi’sio taflu fy ffôn i’r bin,
mynd i ganol y wlad a neidio mewn llyn,
a nofio a throelli a syllu i’r nen,
er mwyn stopio fy hun rhag colli fy mhen.

Ond wedi’r holl gwyno, gofidio a deud,
weithiau ’sna’m drwg mewn rhannu a gneud,
a braf yw rhannu a chefnogi ar sgrin
pan mae pawb arall yn y byd yn teimlo’n flin.

Beth Celyn | 09.10.18

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

42 eiliad

Daw'r clip hwn o