Main content

Mihangel Morgan - Bardd y Mis - Hydref 2018

Nos Galan Gaeaf (sestina gyda phroest)

Cura’r plant bach wrth y drws.
Glyn yn flaidd a Ffebi’n wrach.
Direidus fwganod y nos.
Sibrwd a chwerthin yn y düwch.
Eu hwyliau a’u hofn sy’n creu’r naws.
Colur gwyn a du a choch.

Llieiniau gwyn a gwaed ffug, coch.
Yn hel loshin o ddrws i ddrws.
Hwyl a dychryn yn rhan o’r naws.
Fampir yw Twm brawd Ffebi’r wrach.
Chwerthin a sibrwd yn y düwch.
Pwmpen fawr yn goleuo’r nos.

Masg arswydus oren y nos.
Lliwiau braw; gwyrdd, porffor, coch.
Lynfan’n gysgod yn y düwch
Wrth i Miss Jones ateb y drws
A hithau wedi’i gwisgo’n wrach.
Hen rai hefyd yn licio’r naws.

Noswaith draddodiadol ei naws.
Plant a meirw’n crwydro’r nos,
Fampir, ystlum, sgerbwd a gwrach.
Glyn y bleidd-ddyn a’i safn yn goch.
Dyma’r criw eto wrth y drws,
Yn sefyll yno yn y düwch.

Criw chwareus yn y düwch.
Fel’na mae, yn gymysg ei naws,
Y gwyll yn chwennych golau’r drws,
Ffin rhwng gwawl a mwrllwch y nos.
Difyrrwch gwyn, llawenydd coch,
Loshin melys ar wefus gwrach.

Nawr mae blinder yn drech na gwrach
Dan flanced hudol y düwch.
Llygaid plant i gyd yn goch
A phob un yng ngafael rhyw naws
Gysglyd a hwyl ac ofn y nos
Yn dirwyn i ben wrth y drws.

Wybren goch hiraethus ei naws,
Breuddwyd gwrach mewn siôl o ddüwch
Gefn trymedd nos a’r gaeaf wrth y drws.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau