Main content

Cerdd i Geraint Thomas

Ar ras hir i Baris est ar y beic,
Gymro balch. Drwy'r ornest,
Credu ac anelu wnest
Yn iawn, a'i wneud yn onest.

Wedi'r reid, tyrd adre wedyn, yn d'Γ΄l
O'th bedalu sydyn,
A gwn y bydd gan bob un
Groeso a mawl i'th grys melyn.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

22 eiliad

Daw'r clip hwn o

Dan sylw yn...

Mwy o glipiau 30/07/2018