Main content

Iwan Rhys - Bardd y Mis

Lori Mansel
(ar dôn Milgi Milgi)

Pan ro’n i’n mynd un bore braf
ar yr hewl i Aberystwyth
fe ddales lan ’da lori fawr
jest rownd rhyw gornel lletwith.

Lori Mansel! Lori Mansel!
Ar yr hewl i Aberystwyth.
Lori Mansel! Lori Mansel!
Jest rownd rhyw gornel lletwith.

Co wasgu’r brêc yn sydyn iawn
a bron i mi gael whiplash
ac wir fe aeth fy nhonsils i
yn sownd ym mlew fy mwstash.

A’r lori fel anghenfil mawr
yn llenwi’r hewl o ’mlaen i;
dim lle i’r dde, dim lle i’r chwith
dim lle i fynd o dani.

Lori Mansel! Lori Mansel!
Yn llenwi’r hewl o ’mlaen i;
Lori Mansel! Lori Mansel!
Dim lle i fynd o dani.

Ac ar ôl hanner awr neu fwy
o wynto tin y lori
fe welais chwarter milltir syth
o hewl, a mynd amdani.

Ond dau gan llath yn nes ymlaen
ar yr hewl i Aberystwyth
fe ddales lan ’da lori arall fawr
jest rownd rhyw gornel lletwith.

Lori Mansel! Lori Mansel!
Ar yr hewl i Aberystwyth.
Lori Mansel! Lori Mansel!
Jest rownd rhyw gornel lletwith.

Iwan Rhys

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

2 o funudau

Daw'r clip hwn o