Main content

Odliadur Roy Stephens gan Idris Reynolds

Neuaddau’r mydryddu a hud yr aeddfedu
A unai bryd hynny i lasu y wlad,
Yn wrda’n ei ardal, yn ddifai o ddyfal
 gofal bu’n cynnal aceniad.

Yn Å·d o drawiadau, yn haidd o ddelweddau
Bu’n cywain o’r caeau ein geiriau i gyd,
A’r grynnau mor gryno, ein hiaith gadd ei llwytho
A’i storio dan do gan ŵr diwyd.

A heddiw mae’r gwaddol yn fwyd i’r dyfodol,
Y gwenith gwahanol sy’n gabol a gwâr,
Lliw haf o sillafau ar gyfer gaeafau
Yn fyrnau o ddoeau’r hen ddaear.
Idris Reynolds

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o