Cerdd gan Rhys Dafis
Clwb Peldroed Caerdydd (yr Adar Gleision) yn cael eu dyrchafu i gynghrair y Brifadran, tra bod Clwb Peldroed Abertawe (yr Elyrch) ar fin disgyn oddi yno i gynghrair y Bencampwriaeth.
Gwyn eu byd yr adar gleision,
Hwy gânt fynd i’r fan a fynnon;
Ar ôl cyfnod dros y gorwel
Hedant eto’n chwim ac uchel.
Testun ein hedmygedd ydynt;
Llachar las, a choch o danynt,
Balch eu cân, a balch eu trydar,
Balch eu lle ymysg yr adar.
Gwyn fu byd yr adar gwynion,
Hwy gânt fynd o’r fan a fynnon;
Mwyach maent yn nofio’n dawel
Tua’r gwyll â’u pennau’n isel.
Er ymddangos yn osgeiddig,
Bu eu coesau’n pedlo’n ffrantig;
Yn y diwedd, mae y cerrynt
Wrth y lan yn ormod iddynt.
Ond ‘mhen dim, ar ôl cymhennu,
Dônt yn ôl â’u plu’n serennu;
Gwyn ein byd yn gwylio wedyn
Mewn un man y ddau aderyn.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
Bardd Mai 2018 - Rhys Dafis—Gwybodaeth
Rhys Dafis yw bardd preswyl Radio Cymru ar gyfer Mai 2018.
Mwy o glipiau Dewi Llwyd ar Fore Sul
-
Mike Parker - Gwestai penblwydd
Hyd: 21:06
-
Sian Gwenllian - gwestai gwleidyddol
Hyd: 14:02
-
Bethan Sayed - gwestai pen-blwydd
Hyd: 22:51
-
Jeremy Miles - gwestai gwleidyddol
Hyd: 15:03